BOUYGUES UK A WHITEHEAD BUILDING SERVICES YN CEFNOGI PRENTISIAID TRWY GYNLLUN PRENTISIAETHAU AR Y CYD CYFLE

0
427
LtR Rhys Edwards apprentice Andrew Morgan apprentice Cameron Jones apprentice Hywel Morton Whitehead and Peter Sharpe Bouygues UK scaled
LtR Rhys Edwards apprentice Andrew Morgan apprentice Cameron Jones apprentice Hywel Morton Whitehead and Peter Sharpe Bouygues UK scaled

Mae Bouygues UK a Whitehead Building Services wedi ymrwymo i gefnogi 10 prentis mecanyddol a thrydanol trwy gynllun prentisiaethau ar y cyd Cyfle. 

 Mae Cynllun Prentisiaid Sgiliau Adeiladu ar y Cyd Cyfle yn galluogi prentisiaid i gwblhau rhaglen brentisiaeth lawn trwy weithio gyda nifer o wahanol gyflogwyr lleol i ennill y setiau sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddod yn gymwys. Bydd y prentisiaid mecanyddol a thrydanol (M&E) newydd yn gweithio i’r gadwyn gyflenwi yn Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys y prosiect 83 erw nodedig, Pentre Awel, yn Llanelli.

 Mae cynlluniau prentisiaethau ar y cyd yn helpu cyflogwyr sydd am gefnogi datblygu sgiliau wrth iddynt weithio ar gontractau rhanbarthol, ond nad ydynt mewn sefyllfa i gynnig prentisiaeth dymor llawn, ac sy’n awyddus i gefnogi hyfforddi gweithlu’r dyfodol.

 Mae’r bartneriaeth yn galluogi Cyfle i gynyddu’r nifer o brentisiaethau mae’n recriwtio ar eu cyfer yn y grefft Fecanyddol a Thrydanol, a bydd yn creu etifeddiaeth o ran hyfforddiant a sgiliau a fydd yn darparu budd hirhoedlog i ranbarth Sir Gaerfyrddin.

 Aeth y prentisiaid newydd i ddigwyddiad lansio ym Mhentre Awel, sef y datblygiad y datblygiad gwerth miliynau o bunnoedd sy’n cael ei ddarparu gan Gyngor Sir Gâr. Pentre Awel yw’r cynllun adfywio mwyaf yn ne-orllewin Cymru, a bydd yn dod ag arloesi ym meysydd gwyddor bywyd a busnes, gofal iechyd cymunedol a chyfleusterau hamdden modern at ei gilydd ar safle 83 erw Llynnoedd Delta ar arfordir Llanelli. Mae’n cael ei ariannu’n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe (£40miliwn), ac ef yw’r cynllun adfywio mwyaf yn ne-orllewin Cymru.

 Dywedodd Peter Sharpe, Cyfarwyddwr Prosiect Pentre Awel Bouygues: “Mae pobl leol wrth wraidd y prosiect hwn ym Mhentre Awel. Mae Bouygues UK eisoes yn gweithio gyda llawer o isgontractwyr lleol ar safle Pentre Awel, yn rhan o’i ymrwymiad i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant a sgiliau i bobl leol a grwpiau a dangynrychiolir. 

 “Mae’r bartneriaeth hon gyda Whitehead Building Services a Cyfle yn golygu bod modd i ni recriwtio mwy o bobl leol fyth, ac mae’n galluogi prentisiaid i ddysgu llu o sgiliau adeiladu newydd. Yn ogystal ag M&E, mae prentisiaid crefftau eraill a fydd yn gallu dysgu sgiliau newydd, nid yn unig ym Mhentre Awel, ond mewn prosiectau eraill yn y rhanbarth. Mae Bouygues UK wedi ymrwymo i helpu pobl ifanc ddawnus i ddod i mewn i’r diwydiant adeiladu, yn ogystal â thynnu sylw at fanteision y diwydiant adeiladu fel llwybr gyrfa.”

Prentisiaed Cyfle fydd yn gweithio or projectiau yn Cyngor Sir Caerfyrddin.

  Ychwanegodd Hywel Morton, Cyfarwyddwr Prosiectau Whitehead: “Rydyn ni wrth ein bodd o fod yn rhan o’r prosiect nodedig hwn, gan weithio gyda Bouygues UK. Busnes preifat o dan berchnogaeth deuluol ydyn ni, ac mae prentisiaethau wedi bod wrth wraidd ein llwyddiant am dros 45 mlynedd. Mae cefnogi prentisiaethau trwy gynllun prentisiaethau ar y cyd Cyfle yn golygu ein bod ni’n gallu sicrhau’r cyfleoedd mwyaf i’r cymunedau lleol, nid yn unig yn ystod cam adeiladu Pentre Awel, ond am gyfnod hir ar ôl  i ni gwblhau’r prosiect.  

 “Rydyn n’n cefnogi’r cynllun hwn trwy Cyfle ar ben ein hymrwymiad o’r naill flwyddyn i’r llall i hyfforddi trwy brentisiaethau. Ar 8 Medi, gwnaethon ni groesawu ein carfan newydd o 12 prentis i’n teulu Whitehead. Eleni, rydyn ni wedi cyrraedd carreg filltir bwysig, gyda chyfanswm y prentisiaethau newydd yn fwy na 100 dros y 10 mlynedd diwethaf. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Bouygues UK a Cyfle, gan helpu i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr.”  

 Mae Andrew Morgan, 31, sy’n brentis M&E, yn dweud ei fod yn gyffrous i ddechrau arni: “Rydw i wastad wedi bod eisiau gweithio ym maes adeiladu, ac yn ddiweddar, es i yn ôl i’r coleg, gweld y cyfle hwn gyda Cyfle a gwneud cais. Mae’n dda ein bod ni’n gallu dysgu yn y gwaith a chael y cyfle i weithio ar brosiectau lleol. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr.”

 Dywedodd Euros Griffiths, cydlynydd lleoliadau Cyfle: “Mae ein Rhaglen Prentisiaethau ar y Cyd yn darparu hyfforddiant y mae mawr ei angen, a gweithwyr medrus ar gyfer y diwydiant adeiladu yng Ngorllewin Cymru. Mae hwn yn gyfle gwych i’r prentisiaid ac mae’n wych iddyn nhw weld un o’r prosiectau y gallen nhw fod yn gweithio arnyn nhw yn y camau cynnar, gan wybod y byddan nhw’n cymryd rhan mewn rhyw ffordd ar y safle.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here