8.7 C
Llanelli
Sunday, March 1, 2026
Home Local News Carmarthenshire News Cynlluniau newydd i gymell gwelliant mewn mathemateg a llythrennedd

Cynlluniau newydd i gymell gwelliant mewn mathemateg a llythrennedd

0
387
image00002 to use scaled
image00002 to use scaled

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, heddiw wedi cyhoeddi manylion cynlluniau i wella llythrennedd a rhifedd, fel rhan o ymdrechion ehangach i ddelio ag effeithiau pandemig Covid mewn ysgolion.

Cyn y pandemig, roedd Cymru yn gwneud cynnydd cadarnhaol o ran llythrennedd a rhifedd. Fodd bynnag, mae’n dod yn amlwg bod effeithiau’r pandemig wedi dad-wneud rhywfaint o’r cynnydd hwn. Mae adroddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru ar gyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd wedi manylu ar rai o’r effeithiau.

Mae cynllun mathemateg newydd wedi’i ddatblygu, gyda’r nod o godi safonau. Bydd ffyrdd newydd difyr o ddysgu yn cael eu datblygu fel rhan o’r cwricwlwm newydd, i fagu hyder dysgwyr. Bydd grŵp tystiolaeth, cyngor ac ymchwil newydd yn cael ei sefydlu, yn cynnwys arbenigwyr mewn mathemateg o Gymru, y DU a thu hwnt. Bydd yn rhoi cyngor i’r partneriaid a fydd yn creu pecyn dysgu proffesiynol wedi’i wneud i Gymru.

Mae Ysgol Coedcae yn Llanelli wedi datblygu ffyrdd atyniadol o addysgu llythrennedd ariannol.

Bu’r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, mewn gwers fathemateg a oedd yn canolbwyntio ar addysg ariannol yn yr ysgol, i weld sut mae dysgwyr yn cael eu dysgu i gyfrifo canrannau a chymhwyso hyn i gyfrifo taliadau ar fenthyciadau gan gwmnïau benthyciadau llog uchel.

Dywedodd Sam Terry, Pennaeth Mathemateg Ysgol Coedcae:

“Fel athrawon, mae dyletswydd arnom ni i baratoi ac addysgu pobl ifanc ar gyfer bywyd y tu allan i’r ystafell ddosbarth, ac i roi’r sgiliau angenrheidiol iddyn nhw ar gyfer ymdopi â byd o ansicrwydd ariannol.

“Rydyn ni yn Ysgol Coedcae yn defnyddio’r cwricwlwm newydd i greu grŵp o ddysgwyr sy’n hyderus yn eu sgiliau rhifedd ac sy’n gallu torri’r cylch o bobl sy’n dweud, ‘dwi ddim yn gallu gwneud mathemateg’.”

Mae’r pecyn cymorth llafaredd a darllen a gyhoeddwyd yn gynharach eleni wedi’i ddiweddaru i roi mwy o eglurder ynghylch rôl sgiliau cyfathrebu cynnar a ffoneg systematig, fel strategaethau profedig ar gyfer datblygu sgiliau darllen hanfodol. Mae’r pecyn cymorth yn darparu ystod o wybodaeth ac adnoddau a fydd yn galluogi ysgolion i ddatblygu ac ymgorffori eu dull darllen a llafaredd eu hunain.

Dywedodd Jeremy Miles:

“Mae cymorth clir i’n pobl ifanc gyda llythrennedd a rhifedd yn hanfodol o ystyried effaith barhaus y pandemig, er mwyn iddyn nhw allu elwa ar holl fanteision y cwricwlwm.

“Mae gwaith rhagorol yn digwydd mewn ysgolion ledled Cymru, fel y gwersi addysg ariannol a welais yn Ysgol Coedcae. Nod ein cynlluniau gweithredu yw sicrhau y gall pob dysgwr elwa ar addysgu mor atyniadol.”

Mae’r cynlluniau hyn yn rhan o becyn cymorth ehangach i ysgolion, sydd wedi’i ddarparu i liniaru effeithiau’r pandemig, fel y Rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau. Mae gwerthusiad diweddar o’r rhaglen yn dangos effaith fuddiol y cyllid sydd wedi’i dargedu at y rhai y mae Covid wedi effeithio fwyaf arnynt. Roedd hyn yn cynnwys cynyddu capasiti staff yn y blynyddoedd cynnar ac mewn lleoliadau ysgolion.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.