9.3 C
Llanelli
Thursday, February 26, 2026
Home Food MAE DATHLU cynnyrch Cymreig yn fwyd a diod i Larder Cymru.

MAE DATHLU cynnyrch Cymreig yn fwyd a diod i Larder Cymru.

0
471
LACA2023
LACA2023

Bydd y tîm y tu ôl i’r fenter arloesol yn mynychu Sioe Fwyd Ysgol LACA yn Birmingham dros gyfnod o ddeuddydd o ddydd Mercher 3 Gorffennaf.

Wedi’i gyflenwi gan Menter Môn, bydd Larder Cymru sy’n gweithio gyda chynghorau Wrecsam, Sir y Fflint, Ynys Môn, Gwynedd, Caerdydd a Chaerffili fel rhan o gynllun peilot Bwyd i Ysgolion Cymruyn cael cwmni dau o hoelion wyth y diwydiant, sef Harlech Foodservice a Castell Howell Llanelli.

Gyda chefnogaeth Rhaglen Gwasnaeth BwydBwyd a Diod Cymru, maen nhw ar genhadaeth i arddangos y cynnyrch a’r cynhyrchwyr gorau o bob rhan o Gymru ac yn amlygu’r modd y bydd ysgolion yn lleihau eu cadwyni cyflenwi trwy brynu ganddyn nhw, gan annog cynaliadwyedd, gostwng allyriadau carbon a chefnogi’r economi.

LACA Live 2023

Mae Swyddog Arweiniol Bwyd Larder Cymru, David Wylie o Ynys Môn, yn credu y bydd datblygu cadwyni cyflenwi rhanbarthol o fudd i awdurdodau lleol a’r sector preifat.

“Mae Sioe Fwyd Ysgol LACA yn ddyddiad allweddol yn y calendr i ni,” meddai.

Mae’n llwyfan pwysig ar gyfer y cwmnïau anhygoel o bob maint sydd gennym ni’n cynhyrchu bwyd a diod o ansawdd uchel yng Nghymru, ac yn gyfle i hyrwyddo eu hachos ymhlith gwneuthurwyr penderfyniadau mawr y sector addysg.

LACA Live 2023

“Mae prynu cynnyrch Cymreig yn neges rydyn ni wedi’i hyrwyddo ers sawl blwyddyn bellach, neges sy’n bwysicach nag erioed, am resymau amgylcheddol ac ariannol o ystyried yr heriau sy’n wynebu’r blaned a pherchnogion busnes, yng Nghymru a thu hwnt.”

Ychwanegodd David: “Rydyn ni’n gobeithio dod at ein gilydd a thrafod y materion hyn yn ystod y sioe, a chreu partneriaethau newydd a fydd yn meithrin cydweithredu hirdymor ac yn rhoi mwy o gynnyrch Cymreig ar y fwydlen ar gyfer disgyblion ysgol.”

Y thema ar gyfer cynhadledd, arddangosfa, cystadlaethau, a gwobrau eleni yw Gwella Bwyd Ysgol‘, a ddewiswyd er mwyn canolbwyntio ar y ffaith bod darparu prydau maethlon i blant wedi dod yn fwyfwy heriol oherwydd cynnydd sylweddol mewn costau, prinder staff a diffygion ariannol.

LACA Harlech food

Bydd amryw o siaradwyr a sesiynau panel yn archwilio strategaethau a all helpu i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael y bwyd ysgol gorau un er mwyn cefnogi eu twf a’u dysg.

Ymhlith yr uchafbwyntiau bydd llysgennad newydd LACA, cyn Chef Cenedlaethol y Flwyddyn, Mark Sargeant.

Dywedodd Is-gadeirydd Cenedlaethol LACA, Judith Gregory bod y sefydliad yno i roillaisi bawb sy’n darparu arlwyo o fewn y sector addysg.

Ychwanegodd: “Rydyn ni’n falch o weld Larder Cymru yn mynychu unwaith eto, yn dathlu ac yn codi ymwybyddiaeth o’r nifer fawr o gynhyrchwyr bwyd gwych yng Nghymru a’r rôl y gallan nhw ei chwarae wrth gyflenwi bwyd iach, maethlon i’r sector addysg.

Drwy weithio gyda’n gilydd byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i godi safonau, ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol, ac i ostwng ôl troed carbon awdurdodau lleol ledled y DU.”

Mae Bwyd Cymreig i Ysgolion Larder Cymru yn cael ei gefnogi gan Gronfa Gefnogi Cwmnïau Lleol Llywodraeth Cymru.

Mae Menter Môn, drwy’r cynllun hwn a phrosiectau arloesol eraill, yn ceisio cael effaith gadarnhaol ar gymunedau drwy greu a darparu cyfleoedd i fusnesau ac unigolion.

Am ragor o wybodaeth am Sioe Fwyd Ysgol LACA, ewch i LACA School Food Show | LACA, the school food people.

Am ragor o wybodaeth am Larder Cymru, ewch i www.lardercymru.wales neu anfonwch e-bost at david@mentermon.com. Fel arall, dilynwch @mentermon ar y cyfryngau cymdeithasol.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.