10.1 C
Llanelli
Sunday, March 1, 2026
Home Newyddion Lle MAE GOGLEDD CYMRU YN ‘ALLWEDDOL’ I DYFU ECONOMI CYMRU MEDDAI YSGRIFENNYDD...

MAE GOGLEDD CYMRU YN ‘ALLWEDDOL’ I DYFU ECONOMI CYMRU MEDDAI YSGRIFENNYDD CYMRU

0
315
Toyota stevens1
Toyota stevens1

 

  • Ysgrifennydd Cymru yn canu clodydd gweithgynhyrchu uwch yng ngogledd Cymru ac yn gweld â’i llygaid ei hun sut mae’r sector yn rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl.
  • Cenhadaeth twf economaidd Llywodraeth y DU yn cael ei gwireddu gyda Pharth Buddsoddi £160 miliwn yn Wrecsam a Sir y Fflint.
  • Mae’r buddsoddiad yn rhan o’r Cynllun ar gyfer Newid sy’n helpu i gyrraedd y garreg filltir o godi safonau byw i bobl sy’n gweithio.

Mewn cyfarfod ar safle Toyota ar Lannau Dyfrdwy, fe wnaeth Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ddatgan yn glir wrth arweinwyr busnes yng ngogledd Cymru y byddant yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o helpu i ddatblygu’r economi yng Nghymru. Dyma’r drafodaeth ddiweddaraf gydag arweinwyr ym maes gweithgynhyrchu uwch mewn cyfres o gyfarfodydd bwrdd crwn dan gadeiryddiaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru fel rhan o’i hymgyrch i sicrhau twf economaidd i Gymru.

Yr wythnos diwethaf, roedd Ms Stevens wedi lansio Grŵp Cynghori Twf Economaidd Cymru, a chyfarfu hefyd ag arweinwyr o’r diwydiannau digidol a thechnolegol yng Nghymru. Yr wythnos flaenorol, cyfarfu â’r sector creadigol.

Mae’r grŵp hefyd yn gweithio gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru i lywio Strategaeth Ddiwydiannol newydd Llywodraeth y DU i roi hwb i ddiwydiannau allweddol Cymru, ac i lywio blaenoriaethau Cymru ar gyfer yr Adolygiad nesaf o Wariant. Mae disgwyl y ddau beth hyn yn ystod gwanwyn 2025.

Yng Nghyllideb yr Hydref, cadarnhaodd y Canghellor £320 miliwn o gyllid ar gyfer dau Barth Buddsoddi yng Nghymru. Caiff Parth Buddsoddi Wrecsam a Sir y Fflint ei gefnogi gan £160 miliwn o arian Llywodraeth y DU a fydd yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo cyfleoedd buddsoddi, creu swyddi ychwanegol, a sbarduno twf economaidd.

Welsh Secretary Jo Stevens meeting staff on the factory floor at Toyota on Deeside and the Welsh Secretary at Toyota alongside (L-R) Chris O’Keefe, Rob Gorton, Richard Finchett and Simon Foster of Toyota.

Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: 

“Mae fy ffocws ar dyfu’r economi yng Nghymru a sicrhau bod gan bobl fwy o arian yn eu pocedi. Mae’r sector gweithgynhyrchu uwch yng ngogledd Cymru yn sbardun allweddol ar gyfer twf.

“Yr wythnos diwethaf, cyflwynodd y Prif Weinidog ein Cynllun ar gyfer Newid gyda chenhadaeth glir i roi hwb i’r economi a chodi safonau byw i bawb.

“Mae fy ymrwymiad i fusnesau yng ngogledd Cymru yn ymrwymiad personol. Dyma lle cefais fy magu ac rwy’n gwybod pa mor bwysig yw hi i helpu i sicrhau twf a gwneud gwahaniaeth go iawn i’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardal hon.”

Dywedodd Richard Finchett, Cyfarwyddwr Toyota Motor Manufacturing (UK) Ltd, Plant Glannau Dyfrdwy:

“Ers i ni ddechrau cynhyrchu injans yng Nglannau Dyfrdwy fwy na 30 mlynedd yn ôl, mae Toyota wedi bod yn falch o gyfrannu at gymdeithas Cymru ac at gyflogaeth o safon uchel yn yr ardal hon.

“Mae gweithgynhyrchu uwch gan gynnwys y sector modurol yn parhau i fod yn hanfodol ar gyfer economi ddeinamig gyda’i fuddsoddiadau cysylltiedig mewn pobl, cynhyrchu sgiliau a’r gymuned ehangach. Mae Cyfarfod Ford Gron Llywodraeth y DU heddiw a gynhaliwyd yn Toyota Glannau Dyfrdwy yn gam pwysig yn y ddeialog barhaus rhwng busnes a’r llywodraeth ynghylch ein huchelgeisiau cyffredin ar gyfer twf economaidd, ffyniant cenedlaethol ac arweinyddiaeth garbon isel ledled Cymru.”

Dywedodd John Whalley, Prif Weithredwr Awyrofod Cymru:

“Dwi’n falch iawn bod y Prif Weinidog, ar ei ymweliad diweddar ag Airbus ym Mrychdyn, wedi cadarnhau buddsoddiad gwerth £975 miliwn gan Lywodraeth y DU yn y sector awyrofod. A dwi’n falch o’r arwyddion cynnar o gydweithio agos â Llywodraeth Cymru yn ogystal â’r datganiad o fwriad ym mhapur gwyrdd y Strategaeth Ddiwydiannol. Mae’r sectorau awyrofod a gofod yn edrych ymlaen at gydweithio ffrwythlon rhwng y ddwy lywodraeth a’r diwydiant gan arwain at fwy o ffyniant i bobl Cymru.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.