10.3 C
Llanelli
Tuesday, March 3, 2026
Home Local News Carmarthenshire News Sesiynau Symud a Gwneud i bobl ifanc yn Sir Benfro o Ebrill...

Sesiynau Symud a Gwneud i bobl ifanc yn Sir Benfro o Ebrill i Orffennaf

0
1439
stirling
stirling
Bydd y sefydliad celfyddydau, iechyd a llesiant, People Speak Up, ynghyd ag artistiaid o Sir Benfro, Lisa Evans a Stirling Steward yn cynnal sesiynau Symud a Gwneud wythnosol am ddim o ddiwedd Ebrill hyd fis Gorffennaf i annog pobl ifanc i greu a bod yn weithgar.
Anelwyd y sesiynau Symud a Gwneud am ddim at yr oedrannau 8-13 oed a byddant yn cael eu cynnal bob dydd Mercher ar ôl yr ysgol o 30 Ebrill hyd 9 Gorffennaf rhwng 5pm a 6.30pm yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Hermon, Y Glôg, Sir Benfro.
Yn cael ei gefnogi gan Blant mewn Angen y BBC, bwriadwyd Symud a Gwneud i annog pobl ifanc i fynegi eu hunain yn greadigol, a dechrau symud mewn amgylchedd hwyliog, cynhwysol a diogel.
Cynlluniwyd y gweithdai wythnosol ar ôl yr ysgol i gefnogi llesiant emosiynol trwy symud, dawns, crefftau a’r celfyddydau, a byddant yn cael eu harwain gan yr artist dawns Stirling Steward a’r artist gweledol Lisa Evans. Bwriedir i’r sesiynau fod yn chwareus a chreadigol ac maen nhw am ddim ac ar agor i bawb.
“Rydym mor falch o fod wedi cael cyllid gan Blant mewn Angen y BBC i helpu i gyflwyno’r gweithgaredd am ddim hwn yn y gymuned. Rydym yn gwybod o brofiad sut y gall symud a chreadigrwydd helpu pob oed i wella iechyd meddwl a llesiant. Rydym am i gymaint o bobl ifanc ag sy’n bosibl i ddod ar ôl yr ysgol a chymryd rhan. Nid oes angen unrhyw brofiad. Byddwn yn creu gofod diogel, hwyliog a chroesawus i bawb.” Artist Symud a Gwneud – Lisa Evans
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â People Speak Up ar
Peoplespeakup.co.uk
info@peoplespeakup.co.uk
01554 292393

[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.