Diffoddwyr Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cael eu henwi’n Dîm Offer Anadlu gorau mewn Her Genedlaethol

0
648
IMG 2140 (2) cropped

Mae diffoddwyr tân o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cael clod cenedlaethol ar ôl cael eu henwi’n Dîm Offer Anadlu Gorau, a’r Tîm Gorau yn Gyffredinol, yn yr Her Offer Anadlu Cenedlaethol (NBAC).

Cynhaliwyd y digwyddiad dros benwythnos 12 Hydref 2025 yng Ngholeg y Gwasanaeth Tân yn Moreton-in-Marsh, Swydd Gaerloyw.

Roedd y tîm buddugol – Dominic Norcross (Swyddog â Gofal), Lee Rees (Gyrrwr / Gosod Safleoedd Tân), Luke Fisher a Tim Frost (Tîm Offer Anadlu), a Morgan Lewis (Swyddog Rheoli Mynediad Offer Anadlu) – yn cystadlu yn erbyn 19 o wasanaethau tân ac achub eraill o bob cwr o’r DU. Roedd eu perfformiad yn arddangos sgiliau eithriadol ar yr ochr weithredol, eu gallu i weithio fel tîm, a’u hymrwymiad cryf i ddiogelwch diffoddwyr tân.

Caiff NBAC ei noddi gan Draeger UK a’i gefnogi gan Elusen y Diffoddwyr Tân. Mae’n ddigwyddiad sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol ac yn hyrwyddo arferion gorau wrth ddefnyddio offer anadlu ac wrth reoli digwyddiadau. Roedd pob tîm o bum person yn wynebu sefyllfa realistig, dan bwysau, yn ymwneud â thân mewn eiddo, gyda dim ond 30 munud i ddiffodd y tân ac i achub unrhyw bobl.

Roedd Aseswyr Cenedlaethol o bob rhan o Wasanaeth Tân ac Achub y DU yn asesu eu perfformiadau, gyda’r meini prawf beirniadu yn cwmpasu:

  • Rheoli Digwyddiadau
  • Gweithdrefnau Safleoedd Tân
  • Rheoli Mynediad
  • Gwisgo Offer Anadlu a Gweithdrefnau’r Offer

Fe wnaeth tîm Canolbarth a Gorllewin Cymru ragori ym mhob maes, yn enwedig o ran Gorchymyn a Rheoli, eu gwybodaeth dechnegol, a’u sgiliau diffodd tân ymarferol.

Dywedodd Rheolwr y Grŵp Stuart Bate, Pennaeth Cyflenwi Hyfforddiant:

“Mae’r cyflawniad hwn yn dangos ymroddiad, proffesiynoldeb a hyfforddiant trylwyr ein diffoddwyr tân. Mae cael eich cydnabod fel y gorau o blith cystadleuwyr cryf yn dyst i’r safonau uchel yr ydym yn eu cynnal yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. Rydyn ni’n hynod falch o lwyddiant y tîm.”

Mae’r NBAC yn parhau i fod yn llwyfan hanfodol ar gyfer rhannu arfer gorau, gwella diogelwch diffoddwyr tân, a meithrin cydweithrediad ar draws gwasanaethau tân y DU.

Am ragor o wybodaeth am yr NBAC, ewch i: www.nbac.co.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here