Rhedwr o Glanaman yn codi £700 ar gyfer uned ddydd cemotherapi Ysbyty Tywysog Philip

0
284
Ceris Powell press photo cropped.png

Mae codwr arian lleol wedi rhedeg Hanner Marathon Caerdydd i godi arian ar gyfer Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Aeth Ceris Powell o Lanaman ati i redeg hanner marathon ym mis Hydref i godi arian ar gyfer yr uned ddydd cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip.

Ymgymrodd Ceris â’r her i ddiolch i’r uned am y driniaeth y mae ei hewythr Lyndon wedi bod yn ei derbyn yno.

A llwyddodd i godi £700.

Er bod Ceris wedi cyfaddef bod yr hanner marathon wedi bod yn her, roedd yn werth chweil gallu cyfrannu at achos da a chodi arian ar gyfer yr uned, ychwanegodd.

Dywedodd: “Allwn ni ddim canmol y staff ddigon am y caredigrwydd, y gofal a’r tosturi a ddangoswyd i fy ewythr.”

Dywedodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Allwn ni ddim diolch digon i Rhian a Ceris am eu cefnogaeth i’r uned ddydd cemotherapi. Mae eich ymdrechion yn golygu cymaint i ni.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion, ac rydym yn ddiolchgar iawn am bob rhodd a dderbyniwn.”

Am fwy o fanylion am yr elusen a sut allwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i https://hywelddahealthcharities.nhs.wales/.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here