Ar ôl mwy na hanner canrif yn crefftio ac yn cyflwyno hud a lledrith anfarwol diwylliant Cymru i’r byd, mae Rhiannon Evans, y gof aur ac arian nodedig o Dregaron, wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol o’r fainc ar ddiwedd 2026.
Dros y degawdau, mae gwaith llaw unigryw Rhiannon wedi teithio o galon Cymru i ddwylo uchelwyr brenhinol, enwogion a thoraith o bobl eraill. O fodrwyau ac addurniadau i Dywysog Cymru (y Brenin erbyn hyn) a thywysogesau o Siapan, i emwaith esgobol nodedig ar gyfer Archesgob Desmond Tutu ac Archesgobion Cymru a Chaergaint, mae ei dyluniadau wedi bod yn rhan o ddiwylliant y genedl a thu hwnt. Yn ogystal, hi sydd wedi creu nifer fawr o goronau sawl eisteddfod, a chyfres hir flynyddol o fedalau arian swmpus i enillwyr cystadlaethau Eisteddfod yr Urdd.
Yn fwy pwysig na hyn oll, mae Rhiannon wedi creu miloedd ar filoedd o ddarnau personol i gwsmeriaid cyffredin, gan lwyddo i adeiladu busnes llewyrchus mewn tref wledig fel Tregaron. Drwy safon ei chrefft, llwyddodd i droi Canolfan Rhiannon yn gyrchfan i ymwelwyr o bob cwr o’r byd, rhai ohonynt yn barod i deithio cannoedd o filltiroedd i weld yr artist wrth ei mainc.
Y Greadigaeth yn Parhau, ond yr Awennau yn Symud i’r Genhedlaeth nesaf
Wrth edrych ymlaen, dywedodd Rhiannon:
“Yn bersonol, byddaf bob amser yn artist ac yn greadigol cyn belled ag y bo fy iechyd yn caniatáu, ond mae’r amser wedi dod i mi gamu yn ôl o bwysau rhedeg y busnes o ddydd i ddydd. Mae’r byd wedi newid yn aruthrol ers i mi ddechrau ysgol yn y 1950au. Wrth i mi wylio fy 17 o wyrion ac wyresau yn tyfu, rwy’n gyffrous dros y genhedlaeth nesaf sy’n dod drwodd.
“Er gwaethaf yr holl newidiadau technolegol, mae ein diwylliant yn parhau. Efallai y bydd yn rhaid i ddyluniadau’r dyfodol addasu i gostau cynyddol deunyddiau crai, ond y nod fydd bob amser creu gemwaith sy’n adlewyrchu enaid ac ysbryd ein gwlad, ac sydd o safon fydd yn pahau am oes a thu hwnt. Mae rhai o fy nyluniadau trymaf a mwyaf unigryw yn anodd eu hail-greu bellach oherwydd pris aur, yn sicr dyma gyfle olaf i gwsmeriaid brynu’r darnau hynny gyda fy marc gwneuthurwr personol arnynt, gan fod rhaid i hwnnw ymddeol gennyf innau wrth i ni symud i farc newydd cwmniol.”
I gasglwyr brwd a ffyddlon y brand – rhai ohonynt wedi adeiladu casgliadau gwerth miloedd lawer o bunnoedd dros ddegawdau – dyma’r cyfle olaf un i feddu ar ddarnau sy’n cario stamp personol Rhiannon cyn i’r cwmni drosglwyddo i’w stamp newydd ar gyfer y dyfodol.
Heriau Cyfoes a Gweledigaeth Newydd i Gymru
Yn ôl Gwern Gwynfil, mab Rhiannon a Rheolwr Gyfarwyddwr y cwmni, mae’n amser i’w fam gael seibiant haeddiannol ar ôl llywio’r llong drwy gyfnodau da a drwg. Roedd hi’n wraig fusnes arloesol ymhell o flaen ei hamser yn y 70au a’r 80au, pan oedd y byd i fenywod mewn busnes yn heriol iawn.
Wrth drafod dyfodol y cwmni, dywedodd Gwern:
“Fel cynifer o fusnesau yng nghefn gwlad Cymru, mae gennym heriau anferth ar hyn o bryd. Mae effeithiau’r pandemig, y cwymp yn niferoedd yr ymwelwyr i rannau mwy anghysbell o’r canolbarth, a’r cynnydd aruthrol ym mhrisiau aur ac arian dros y misoedd diwethaf wedi creu storm berffaith.
“Ond mae dyfodol i etifeddiaeth Rhiannon. Os nad yw’r cwsmeriaid yn teithio atom ni, mae’n rhaid i ni fynd at y cwsmeriaid. Ein bwriad yw agor siop newydd yn ein prifddinas, Caerdydd, gan gadw ein gwreiddiau a’r gweithdy cynhyrchu wrth galon Cymru yn Nhregaron.
“Mae gormod o frandiau Cymreig gwych yn diflannu pan fydd eu sylfaenwyr yn ymddeol, neu yn cael eu gwerthu i gwmnïau tramor sy’n echdynnu’r elw o Gymru. Rydym am herio’r drefn honno. Dyma gyfle euraidd i’n cwsmeriaid a buddsoddwyr newydd i fod yn berchen ar gyfran o’r cwmni ei hun, gan droi brand Rhiannon yn un o Bencampwyr Cenedlaethol Cymru yn y farchnad ryngwladol.”
Mwy am Rhiannon
Amdanom Ni | Gemwaith Rhiannon
Am ymholiadau a chyfweliadau cysylltwch ȃ Rhiannon rse@rhiannon.co.uk neu Gwern Gwynfil gwerngwynfil@icloud.com (07966899778)

| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |










