17.4 C
Llanelli
Thursday, August 6, 2026
Home Local News Ceredigion News Gof Aur Rhyngwladol o Geredigion yn Cyhoeddi ei Hymddeoliad ar ôl Hanner...

Gof Aur Rhyngwladol o Geredigion yn Cyhoeddi ei Hymddeoliad ar ôl Hanner Canrif o Ddisgleirio

0
56

Ar ôl mwy na hanner canrif yn crefftio ac yn cyflwyno hud a lledrith anfarwol diwylliant Cymru i’r byd, mae Rhiannon Evans, y gof aur ac arian nodedig o Dregaron, wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol o’r fainc ar ddiwedd 2026.

Dros y degawdau, mae gwaith llaw unigryw Rhiannon wedi teithio o galon Cymru i ddwylo uchelwyr brenhinol, enwogion a thoraith o bobl eraill. O fodrwyau ac addurniadau i Dywysog Cymru (y Brenin erbyn hyn) a thywysogesau o Siapan, i emwaith esgobol nodedig ar gyfer Archesgob Desmond Tutu ac Archesgobion Cymru a Chaergaint, mae ei dyluniadau wedi bod yn rhan o ddiwylliant y genedl a thu hwnt. Yn ogystal, hi sydd wedi creu nifer fawr o goronau sawl eisteddfod, a chyfres hir flynyddol o fedalau arian swmpus i enillwyr cystadlaethau Eisteddfod yr Urdd.

Yn fwy pwysig na hyn oll, mae Rhiannon wedi creu miloedd ar filoedd o ddarnau personol i gwsmeriaid cyffredin, gan lwyddo i adeiladu busnes llewyrchus mewn tref wledig fel Tregaron. Drwy safon ei chrefft, llwyddodd i droi Canolfan Rhiannon yn gyrchfan i ymwelwyr o bob cwr o’r byd, rhai ohonynt yn barod i deithio cannoedd o filltiroedd i weld yr artist wrth ei mainc.

Y Greadigaeth yn Parhau, ond yr Awennau yn Symud i’r Genhedlaeth nesaf

Wrth edrych ymlaen, dywedodd Rhiannon:

“Yn bersonol, byddaf bob amser yn artist ac yn greadigol cyn belled ag y bo fy iechyd yn caniatáu, ond mae’r amser wedi dod i mi gamu yn ôl o bwysau rhedeg y busnes o ddydd i ddydd. Mae’r byd wedi newid yn aruthrol ers i mi ddechrau ysgol yn y 1950au. Wrth i mi wylio fy 17 o wyrion ac wyresau yn tyfu, rwy’n gyffrous dros y genhedlaeth nesaf sy’n dod drwodd.

“Er gwaethaf yr holl newidiadau technolegol, mae ein diwylliant yn parhau. Efallai y bydd yn rhaid i ddyluniadau’r dyfodol addasu i gostau cynyddol deunyddiau crai, ond y nod fydd bob amser creu gemwaith sy’n adlewyrchu enaid ac ysbryd ein gwlad, ac sydd o safon fydd yn pahau am oes a thu hwnt. Mae rhai o fy nyluniadau trymaf a mwyaf unigryw yn anodd eu hail-greu bellach oherwydd pris aur, yn sicr dyma gyfle olaf i gwsmeriaid brynu’r darnau hynny gyda fy marc gwneuthurwr personol arnynt, gan fod rhaid i hwnnw ymddeol gennyf innau wrth i ni symud i farc newydd cwmniol.”

I gasglwyr brwd a ffyddlon y brand – rhai ohonynt wedi adeiladu casgliadau gwerth miloedd lawer o bunnoedd dros ddegawdau – dyma’r cyfle olaf un i feddu ar ddarnau sy’n cario stamp personol Rhiannon cyn i’r cwmni drosglwyddo i’w stamp newydd ar gyfer y dyfodol.

Heriau Cyfoes a Gweledigaeth Newydd i Gymru

Yn ôl Gwern Gwynfil, mab Rhiannon a Rheolwr Gyfarwyddwr y cwmni, mae’n amser i’w fam gael seibiant haeddiannol ar ôl llywio’r llong drwy gyfnodau da a drwg. Roedd hi’n wraig fusnes arloesol ymhell o flaen ei hamser yn y 70au a’r 80au, pan oedd y byd i fenywod mewn busnes yn heriol iawn.

Wrth drafod dyfodol y cwmni, dywedodd Gwern:

“Fel cynifer o fusnesau yng nghefn gwlad Cymru, mae gennym heriau anferth ar hyn o bryd. Mae effeithiau’r pandemig, y cwymp yn niferoedd yr ymwelwyr i rannau mwy anghysbell o’r canolbarth, a’r cynnydd aruthrol ym mhrisiau aur ac arian dros y misoedd diwethaf wedi creu storm berffaith.

“Ond mae dyfodol i etifeddiaeth Rhiannon. Os nad yw’r cwsmeriaid yn teithio atom ni, mae’n rhaid i ni fynd at y cwsmeriaid. Ein bwriad yw agor siop newydd yn ein prifddinas, Caerdydd, gan gadw ein gwreiddiau a’r gweithdy cynhyrchu wrth galon Cymru yn Nhregaron.

Mae gormod o frandiau Cymreig gwych yn diflannu pan fydd eu sylfaenwyr yn ymddeol, neu yn cael eu gwerthu i gwmnïau tramor sy’n echdynnu’r elw o Gymru. Rydym am herio’r drefn honno. Dyma gyfle euraidd i’n cwsmeriaid a buddsoddwyr newydd i fod yn berchen ar gyfran o’r cwmni ei hun, gan droi brand Rhiannon yn un o Bencampwyr Cenedlaethol Cymru yn y farchnad ryngwladol.”

Mwy am Rhiannon

Amdanom Ni | Gemwaith Rhiannon 

Ein Hanes | Gemwaith Rhiannon 

Hafan | Gemwaith Rhiannon 

Am ymholiadau a chyfweliadau cysylltwch ȃ Rhiannon rse@rhiannon.co.uk neu Gwern Gwynfil gwerngwynfil@icloud.com (07966899778)

pexels coppertist wu 313365563 15955333

[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.