9.5 C
Llanelli
Friday, November 20, 2026
Home Newyddion Lle Prentisiaeth yn tanio nod Byron i ddod yn prif gogydd

Prentisiaeth yn tanio nod Byron i ddod yn prif gogydd

0
61
Byron Valentine with Faith

Mae uchelgais Byron Valentine i ddod yn brif gogydd a pherchen ar ei fwyty ei hun ar y trywydd iawn ar ôl graddio gyda Phrentisiaeth mewn Coginio Proffesiynol.

Mae Byron, sy’n 25 oed o Gefn Mawr, wedi dechrau swydd newydd yn ddiweddar fel sous chef yn y Wynnstay Arms, Rhiwabon, ar ôl cwblhau ei brentisiaeth wrth weithio fel chef de partie yn Pant-yr-Ochain, Gresffordd. 

Byron Valentine with Faith

“Fe wnes i fy nghymwysterau lefel 1 a 2 yn y coleg ac roeddwn i wastad eisiau gwneud lefel 2,” esboniodd Byron, sy’n mwynhau bwyd gyda dylanwad Asiaidd. “Fe wnes i ddarganfod cymaint mwy amdanaf fy hun fel cogydd trwy wneud y brentisiaeth ac fe roddodd yr hyder i mi ddatblygu prydau yn ogystal â’m helpu i gael y swydd newydd.

“Ar ôl naw mlynedd fel cogydd, mae wedi dysgu i mi beth sydd angen i mi ei wneud i symud ymlaen yn fy ngyrfa. Fy uchelgais yw bod yn brif gogydd un diwrnod ac, gobeithio, yn berchen ar fy mwyty fy hun.”

Byron Valentine
Cambrian Training Graduations November 2026.
Picture by Phil Blagg Photography.
PB189-2026

Croesawodd hefyd y cyfle i wella ei sgiliau Saesneg a Mathemateg trwy gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol fel rhan o’i brentisiaeth a gwblhawyd mewn 18 mis.

Mae Byron bellach yn symud ymlaen i Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Rheoli Lletygarwch gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian, prif ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith annibynnol Cymru i’r sector lletygarwch.

Bydd hefyd yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth celfyddydau coginio yng Nghystadlaethau Sgiliau Cymru nesaf. Mae cofrestriadau ar agor rhwng Tachwedd 23 a Rhagfyr 4 yn https://inspiringskills.gov.wales/register.

Canmolodd cefnogaeth ei swyddog hyfforddiant Mel Canning o Gwmni Hyfforddiant Cambrian, wrth iddo gyfuno dysgu â gwaith a genedigaeth ei fab, Noah, yn gynharach eleni.

Yn awyddus i feincnodi ei sgiliau, mae Byron yn bwriadu cymryd rhan yng nghystadleuaeth celfyddydau coginio yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru a ni fyddai’n oedi cyn argymell prentisiaeth i gogyddion eraill sy’n dymuno symud ymlaen â’u gyrfa.

Dywedodd Mel: “Gwnaeth Byron yn dda iawn i gyflawni ei brentisiaeth tra’n brysur yn y gwaith a chael teulu ifanc. Mae wedi datblygu fel person ac roedd bob amser yn awyddus i wneud gwell prydau ac i wneud yr hyn oedd ei angen ar gyfer ei brentisiaeth. Edrychaf ymlaen at ei gefnogi drwy’r Brentisiaeth Uwch.” 

Mynychodd Byron seremoni raddio hydref Cwmni Hyfforddiant Cambrian ar Faes Sioe Frenhinol Cymru, Llanfair-ym-muallt lle’r oedd yn un o fwy na 100 o brentisiaid i raddio.

Pennawd llun: 

Mae Byron Valentine yn derbyn ei sgrôl prentisiaeth gan reolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian, Faith O’Brien.

Mae Byron Valentine yn dathlu ei raddio gyda’i fab Noah. 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.