14.2 C
Llanelli
Monday, October 12, 2026
Home Drinks Te ‘lles’ Cymru’n cyrraedd yn ystod y cyfnod clo

Te ‘lles’ Cymru’n cyrraedd yn ystod y cyfnod clo

0
645
Wellness Tea Edit scaled
Wellness Tea Edit scaled

Te Welsh Brew a Phrifysgol Caerdydd yn creu te gwyrdd  

Mae’r llwyth cyntaf o de gwyrdd llesol newydd wedi’i gymysgu â mêl Cymreig pur a phlanhigion a nodwyd yn wyddonol wedi cyrraedd Cymru. 

Mae Te Welsh Brew wedi ymuno â Phrosiect @Pharmabees Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i greu’r ddiod.  

Wedi’i ddatblygu gan y cwmni o Abertawe a gwybodaeth wyddonol Caerdydd, mae’r te Bee Good to YOURSELF – sydd wedi’i gymysgu yn y DU – yn 100% naturiol. 

“Rydyn ni’n credu mai hwn yw’r te gwyrdd cyntaf o’i fath i ddefnyddio mêl Cymreig go iawn ar ffurf tafnau o fêl – yn hytrach na chyflasyn mêl synthetig a ddefnyddir mewn cynhyrchion eraill,” meddai rheolwr gyfarwyddwr a sylfaenydd y cwmni, Alan Wenden. 

“Mae Bee Good to YOURSELF yn gyfuniad adfywiol o de gwyrdd, mêl Cymreig pur, mwyar duon a blodau gwyllt gan gynnwys erwain, sy’n rhoi rhywbeth yn ôl i natur trwy gefnogi prosiectau peillwyr cymunedol ledled y wlad.” 

Ar ôl dŵr, te yw’r ddiod sy’n cael ei yfed fwyaf yn y byd a chredir ei fod yn cynnig ystod o fanteision iechyd. Mewn astudiaethau labordy, maent wedi datgelu bod gan de allu i dargedu bygiau cyffredin sy’n achosi afiechydon.  

Meddai Les Baillie, sy’n Athro Microbioleg yn yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol: Mae mêl wedi cael ei ddefnyddio am filenia i drin amrywiaeth o gyflyrau, gan gynnwys anwydau.  

“Mae ein partneriaeth gyda Welsh Brew Tea yn rhan o’n gwaith i ddatblygu mêl yng Nghymru sy’n gallu lladd bacteria ymwrthol iawn. Bydd hyn yn efelychu mêl Manuka Seland Newydd y mae ei nodweddion gwrthfacteria yn deillio o gyfansoddion naturiol planhigion. Mae’r gwenyn yn trosglwyddo’r cyfansoddion hyn o’r planhigion wrth iddynt wneud y mêl.” 

Dywedodd Robyn Davies, Pennaeth Arloesedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Chymrawd Arloesedd Prifysgol Caerdydd: “Rydyn ni wrth ein bodd bod y llwyth cyntaf o de wedi cyrraedd Cymru, gan ychwanegu at ein portffolio o ddyfeisiau arloesol sy’n cefnogi lles yng Nghymru.” 

Trwy @Pharmabees, mae ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn archwilio sut y gallai peillio rhai planhigion penodol arwain at ddatblygu cyffuriau i drin cyflyrau meddygol difrifol sydd bellach ag ymwrthedd i wrthfiotigau traddodiadol. 

Mae Welsh Brew Tea hefyd yn cefnogi’r cynllun ‘mabwysiadu cwch gwenyn’, a ddatblygwyd gan un o gwmnïau technoleg ddysgu mwyaf blaenllaw Cymru, Bee1, ynghyd â Phrifysgol Caerdydd i annog disgyblion ysgol i ddysgu am bwysigrwydd gwenyn a sut i’w cadw. Nod y cwmni yw annog ysgolion, busnesau ac unigolion i fabwysiadu eu cwch gwenyn (a’u gwenynwr) eu hunain wrth iddynt dyfu a dysgu sut i greu dyfodol naturiol a chynaliadwy. 

Gellir prynu’r te newydd yn welshbrewtea.co.uk/wellness-tea/ am £6.95 

Cysylltwch â info@welshbrewtea.com neu ffoniwch 01792 363391 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.