7.7 C
Llanelli
Thursday, May 14, 2026
Home Local News Disgwylir y bydd rhywfaint o darfu ar wasanaethau i'r cyhoedd

Disgwylir y bydd rhywfaint o darfu ar wasanaethau i'r cyhoedd

0
619

Disgwylir y bydd rhywfaint o darfu ar wasanaethau i’r cyhoedd yn Sir Gaerfyrddin ddydd Iau oherwydd streic gyffredinol.

Mae nifer o staff y Cyngor Sir yn perthyn i undebau gan gynnwys y GMB, Unite, UNSAIN a’r NUT (Undeb Cenedlaethol yr Athrawon), a fydd i gyd yn streicio i gael codiad cyflog.

Mae’n annhebygol y bydd casgliadau sbwriel. Mae preswylwyr sydd fel arfer yn cael eu sbwriel (bagiau glas/du a biniau gwastraff bwyd) wedi ei gasglu ar Ddydd iau yn cael eu cynghori i beidio â rhoi nhw allan ar y dyddiad hynny ac i ‘w rhoi nhw allan i gael eu casglu ar Ddydd Sadwrn, Gorfennaf 12.

Bydd y pump canolfan ailgylchu gwastraff Cartref yn Nhrostre (Llanelli) Wernddu (Rhydaman); Nantycaws (Caerfyrddin); Hendygwyn a Llangadog yn dal ar agor.

Bydd Cofrestrfeydd Rhydaman a Llanelli ar gau ond bydd cofrestrfa Caerfyrddin ar agor a bydd pob galwad yn cael ei throsglwyddo i’r swyddfa honno. Bydd gwasanaethau archifau’r sir ar gau hefyd.

Bydd y theatrau ar agor fel arfer ond mae cynhyrchiad Ysgol Coedcae o ‘We Will Rock You’ yn Theatr y Ffwrnes wedi’i ohirio oherwydd prinder staff yn sgil y streic.

Bydd y ganolfan gyswllt ar agor ond mae’n debygol y bydd oedi wrth ateb y ffôn gan mai nifer bach o staff fydd ar ddyletswydd.

Dylai canolfannau hamdden, llyfrgelloedd ac adeiladau eraill y Cyngor fod ar agor ond rhagwelir y bydd llai o staff yn bresennol. Cynghorir y cyhoedd i gael cadarnhad ynghylch y sefyllfa cyn gwneud trefniadau teithio.

Caiff rhagor o fanylion eu cyhoeddi wrth i’r wybodaeth ddod i law.

Disgwylir cryn darfu ar ysgolion – bydd penaethiaid ysgol yn cysylltu â’r rhieni’n uniongyrchol a bydd gwybodaeth ar gael yn yr adran ynghylch cau/tarfu ar ysgolion sydd i’w chael ar wefan y Cyngor.

Bydd y bobl sy’n derbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol yn dal i’w cael gan y bydd staff yn gofalu am y rhai sy’n agored i niwed. Hefyd bydd staff ar gael mewn cartrefi preswyl.

Ewch i Y Newyddion y cyngor, neu dilynwch @CarmsCouncil ar Twitter a Facebook i gael y manylion diweddaraf wrth iddynt gael eu cyhoeddi.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here