26.1 C
Llanelli
Monday, June 22, 2026
Home Uncategorised Mae Gan yr Ardd ei Chrafangau

Mae Gan yr Ardd ei Chrafangau

0
684

Mae Hebogyddiaeth y Mynyddoedd Du yn ôl yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn Sir Gaerfyrddin y penwythnos hwn ar Ddydd Sadwrn a Dydd Sul, Awst 9-10 am ddau ddiwrnod o arddangosiadau hedfan ysblennydd.

Bydd hebogau Harris, boncathod a thylluan fawr yn esgyn i’r awyr fel rhan o ddwy sioe dyddiol, un am 12 canol dydd a’r llall am 2yp, a bydd cyfle i ymwelwyr wisgo’r dyrnfol a rhoi cynnig ar hebogyddiaeth.

Ac ar Ddydd Sul, bydd Côr Belmont o Abertawe, yn perfformio yn y Tŷ Gwydr Mawr. Fe’i ffurfiwyd ym 1964 fel Cantorion Brian Morris (mae Brian dal yn aelod gweithgar o’r Côr), maen nhw wedi canu o flaen Diana, Tywysoges Cymru, ac ymddangos ar y rhaglen dalentau chwedlonol Opportunity Knocks (daethant yn ail!). Mae ganddynt raglen amrywiol sy’n debyg o fod at ddant pawb. Ynghyd â chaneuon traddodiadol i gorau meibion, maen nhw’n canu caneuon ysbrydol ac emynau, caneuon gwerin, a chaneuon modern a phoblogaidd o’r sioeau.

Mae’r Ardd ar agor rhng 10yb a 6yh ar y ddau ddiwrnod, a bydd yr arddangosiadau gan yr adar ysglafaethus a pherfformiadau’r côr yn rhad ac am ddim i holl ymwelwyr yr Ardd.

Am fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau’r Ardd, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk neu ffoniwch 01558 667149.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here