8.1 C
Llanelli
Monday, February 2, 2026
Home News Sports News Sioe siarad newydd i drafod Cymru yn Euro 2016

Sioe siarad newydd i drafod Cymru yn Euro 2016

0
1077
Taror Bar
Taror Bar

Mae Cymru yn agosáu at greu hanes yn y byd pêl-droed drwy gyrraedd rowndiau terfynol Euro 2016 yn Ffrainc.

I ychwanegu at yr holl gyffro ymhlith dilynwyr y gêm brydferth yng Nghymru, bydd S4C yn darlledu sioe siarad pêl-droed arbennig, Taro’r Bar: Euro 2016 cyn y gemau sydd gan Gymru ar ôl yn rowndiau rhagbrofol y bencampwriaeth gan gychwyn nos Iau 11 Mehefin, noson cyn yr ornest rhwng Cymru a Gwlad Belg.

Bydd sioeau tebyg yn y gyfres Taro’r Bar: Euro 2016 yn cael eu darlledu cyn y pedair gêm ragbrofol arall – adre’ yn erbyn Israel ac Andorra ac oddi cartre’ yn erbyn Cyprus a Bosnia-Herzegovina.

Dylan Ebenezer a’r actorion a’r ffans pêl-droed Huw Rhys ac Aled Pugh fydd y tîm cyflwyno ac ar y rhaglen gyntaf fel gwesteion fydd cyn ymosodwr Cymru a Newcastle, Malcolm Allen a chyn chwaraewr canol cae Cymru ac Abertawe, Owain Tudur Jones.

Ar hyn o bryd mae Cymru yn ail yn eu grŵp a gyda’r ddau dîm cyntaf yn bendant yn mynd i rowndiau terfynol Euro 2016, mae’n gyfle gwirioneddol dda i Gymru gyrraedd eu twrnamaint rhyngwladol cyntaf ers 1958.

Bydd Taro’r Bar: Euro 2016 yn cael ei chynhyrchu gan Rondo Media, sy’n gyfrifol am raglenni chwaraeon S4C, Sgorio a Clwb.

Meddai Carwyn Williams, cynhyrchydd y gyfres: “Mae’n amser perffaith i lansio cyfres fel Taro’r Bar: Euro 2016 hanner ffordd drwy rowndiau rhagbrofol y bencampwriaeth gyda Chymru ar yr un nifer o bwyntiau â Gwlad Belg sydd â llawer o sêr y byd pêl-droed yn eu tîm. Gwahaniaeth yn y goliau yn unig sy’n gwahanu’r ddau dîm.

“Byddwn yn edrych ymlaen at y gêm fawr a gyda chynulleidfa yn y stiwdio yng Nghaernarfon, bydd pawb yn cael tipyn o hwyl hefyd. Yn y rhaglen gyntaf bydd Aled a Huw yn wynebu’r sialens o enwi gymaint â phosib o chwaraewyr a chyn chwaraewyr Cymru a gwneud hynny wrth sefyll ar adain awyren fil o droedfeddi i fyny yn yr awyr!”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.