5.4 C
Llanelli
Tuesday, February 3, 2026
Home News Sports News Wythnos o rygbi ar S4C

Wythnos o rygbi ar S4C

0
1067
S4C logo 2014.svg
S4C logo 2014.svg

S4C30.07.2015

Ffion Rees

Cyswllt

Ffôn 029 2074 1422

Erthygl i’r Wasg

 

Wythnos o rygbi ar S4C

Wrth lansio Wythnos Rygbi S4C, fe fydd y sianel yn dangos gêm baratoi Cwpan Rygbi’r Byd Cymru v Iwerddon yn llawn nos Sadwrn, 8 Awst.

Fe fydd wedyn wythnos o raglenni archif rygbi rhwng dydd Llun 10 Awst a dydd Gwener 15 Awst er mwyn dechrau ar y dathliadau ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd 2015 yn yr hydref. Fe fydd S4C yn dangos naw gêm fyw fel rhan o arlwy Cwpan Rygbi’r Byd 2015 a llwyth o raglenni uchafbwyntiau a thrafod.

Meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys a Darlledu S4C, “Mae’r wythnos llawn clasuron o’r archif yn ffordd o ddathlu Cwpan Rygbi’r Byd 2015 sydd yn prysur nesau.  Mae cael darlledu’r gemau yn Gymraeg yn ystod y bencampwriaeth yn newyddion da i ddilynwyr rygbi yng Nghymru a thu hwnt ac yn wasanaeth unigryw sy’n dangos ein hymroddiad i gêm sydd wrth galon bywyd yng Nghymru.”

Ymhlith yr arlwy fydd rhai o gemau Cwpan Rygbi’r Byd cofiadwy o’r archif yn cael eu cyflwyno gan gyn-chwaraewyr Cymru o’r adegau penodol gan gynnwys Cymru v Alban 2010, Iwerddon v Cymru 2012 a Cymru v Lloegr 2013.

Hefyd yn ystod Wythnos Rygbi S4C darlledir rhaglenni dogfen am rai o arwyr a chymeriadu’r gêm gan gynnwys Delme Thomas, Gareth Edwards, Ray Gravell, Carwyn James a Huw Llywelyn Davies.

Bydd rhaglen ddogfen arall Y 15 Olaf yn adrodd hanes y pymtheg olaf i chwarae i Gymru cyn i’r Rhyfel Byd Cyntaf ddod i ben.

Ceir uchafbwyntiau o gemau Cymru Dan 18 yn erbyn yr Eidal a De Affrica yn ystod yr wythnos yn ogystal â gemau byw ar brynhawn Sadwrn 15 Awst o Ŵyl Rygbi 7 bob ochr Caerdydd.

Mae’r cynhyrchwyr BBC Cymru wedi tynnu ynghyd dîm cyfwyno cryf ar gyfer gêm baratoi Cymru v Iwerddon gan gynnwys y sylwebwyr Cennydd Davies, Gareth Rhys Owen gyda Gwyn Jones yn ymuno â’r cyflwynydd Gareth Roberts. Bydd Gwyn hefyd yn ymuno â Shane Williams wrth y cae.

Yn yr wythnosau eraill yn arwain at Gwpan Rygbi’r Byd 2015, bydd S4C yn darlledu mwy o raglenni rygbi yn edrych ymlaen at y bencampwriaeth.

Bydd y rhain yn cynnwys cyfres o dair rhaglen Hanes Cwpan y Byd, rhaglenni’n dangos goreuon rygbi’r clybiau yn Ffrainc, y Top 14, a rhaglenni dogfen gan gynnwys Y Gêm Gudd fydd yn adrodd stori gêm ddadleuol Llanelli yn Rwsia yn y 1950au.

Wythnos Rygbi S4C Sadwrn 8 Awst i ddydd Sul 16 Awst, S4C

Gwefan: s4c.cymru


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.