Deadline looming for consultation on new school building
CONSULTATION ends this week for a new multi-million pound school for Ysgol Dewi Sant.
People are urged to give their views on a proposed £9.1million build in Llanerch before the deadline of Wednesday, October 11.
Hundreds of people have already taken part in the consultation, however education chiefs are encouraging as many as possible to participate.
The plans are to replace the current Ysgol Dewi Sant site and school buildings which do not meet Carmarthenshire’s standards.
Subject to planning being approved for the new Ysgol Dewi Sant, design work would begin on the redevelopment of Ysgol Penygaer which would inherit the existing Dewi Sant site, once they have occupied the new facility.
People can take part in the consultation online at i-Local or visit Llanelli Library where hard copies are available.
The major investment would be part of Carmarthenshire County Council’s Modernising Education Programme (MEP),jointly funded by the council and the Welsh Government, through its 21st Century Schools initiative.
The council’s executive board member for education and children’s services, Cllr Glynog Davies said: “Time is running out for people to tell us what they think of the plans for this investment in Ysgol Dewi Sant, and Ysgol Penygaer.
“We have had a really good response to the consultation, which will help us when reaching a decision on the proposals.
“However, it’s not too late to have your say if you haven’t already done so, we welcome all feedback.”
Dyddiad cau ymgynghoriad ynghylch adeilad ysgol newydd yn agosáu
MAE’R broses ymgynghori ynglŷn â chael adeilad newydd gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer Ysgol Dewi Sant yn dod i ben yr wythnos hon.
Mae pobl yn cael eu hannog i roi eu barn ar adeilad arfaethedig gwerth £9.1miliwn yn Llanerch cyn y dyddiad cau sef dydd Mercher, 11 Hydref.
Mae cannoedd o bobl eisoes wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad, ond mae prif swyddogion addysg yn annog cynifer o bobl â phosibl i gymryd rhan.
Y bwriad yw cael safle ac adeiladau ysgol newydd ar gyfer Ysgol Dewi Sant yn lle’r rhai presennol nad ydynt yn cyrraedd safonau Sir Gaerfyrddin.
Yn amodol ar gael caniatâd cynllunio ar gyfer yr Ysgol Dewi Sant newydd, byddai gwaith cynllunio yn dechrau ar ailddatblygu Ysgol Penygaer, a fyddai’n symud i safle presennol Ysgol Dewi Sant ar ôl i’r ysgol honno symud i’w chyfleuster newydd.
Gall pobl gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar-lein drwy fynd i Lleol-i neu gallant ymweld â Llyfrgell Llanelli lle mae copïau caled ar gael.
Byddai’r buddsoddiad mawr hwn yn rhan o Raglen Moderneiddio Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin, a gaiff ei hariannu ar y cyd gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru, drwy ei menter Ysgolion yr 21ain Ganrif.
Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol y Cyngor dros Addysg a Gwasanaethau Plant: “Mae amser yn brin i bobl roi eu barn i ni am y cynlluniau ar gyfer y buddsoddiad hwn yn Ysgol Dewi Sant, ac Ysgol Penygaer.
“Rydym wedi cael ymateb da iawn i’r ymgynghoriad, a fydd yn ein helpu wrth wneud penderfyniad ar y cynigion.
“Fodd bynnag, nid yw’n rhy hwyr i chi ddweud eich dweud os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny; rydym yn croesawu’r holl adborth.”
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |














