9.6 C
Llanelli
Wednesday, March 4, 2026
Home Arts and Media TAITH PONTYDD NID MURIAU/RHYDDHAU SENGL HYDREF 2018

TAITH PONTYDD NID MURIAU/RHYDDHAU SENGL HYDREF 2018

0
672
Allan Yn Y Fan 1
Allan Yn Y Fan 1

Bydd y band traddodiadol Cymreig Allan Yn Y Fan yn dathlu eu 22ain blwyddyn ar y ffordd gyda rhyddhau eu sengl gyntaf ym mis Medi, gyda thaith Ewropeaidd fawr i ddilyn yn yr Hydref.

Mae dau drac ar y sengl, a gyhoeddir ar label Steam Pie, sef “Ym Mhontypridd” a “Gorthrwm y Gweithiwr”. Mae’r band yn credu mai hwn yw’r recordiad cyntaf erioed o gân “Gorthrwm y Gweithiwr” sy’n cyfeirio ar frwydrau gweithwyr yn erbyn meistri haearn Beaufort, Glynebwy yng nghanol y 19eg ganrif.

Mae cyhoeddiadau’r daith a’r sengl CD yn dangos y band o flaen pont un cwmpas eiconig William Edwards dros yr Afon Taf ym Mhontypridd. Wedi’i chodi yn 1756, hi oedd am 40 mlynedd y bont un cwmpas fwyaf ym Mhrydain.

Caiff teitl y daith hefyd ei ysbrydoli gan y pontydd cerddorol y mae cefnogwyr y band wedi eu galluogi i’w codi dros y degawdau, a adlewyrchir gan ddychwelyd i Lwcsembwrg, Spiegelberg, Ystradgynaiais ac Abertyleri.

Mae’r ddihareb “A Fo Ben Bid Bont” hefyd yn flaenllaw m meddyliau’r band.

Mae Allan Yn Y Fan yn arbennig o falch i fod yn ymweld am y tro cyntaf ar y daith hon â Papenburg lle byddant yn perfformio’r cyngerdd cyntaf yn safle Altei Droste sydd newidd ei adfer; cyngerdd premiere yn Theatr Siwdio Staatsschauspiel yn Dresden, ynghyd ag ymweliadau cyntaf  i Lanelli, Croesoswallt a Llanidloes.

Cyhoeddir “Ym Mhontypridd/Gorthrwm y Gweithiwr” ar 7 Medi.

Dyddiadadau’r daith lawn yw:-

14/09/18 Theatr Brycheiniog  ABERHONDDU

27/09/18 Chateau Bettemberg LWCSEMBWRG

28/09/18 Alte Drostei PAPENBURG  Yr Almaen

29/09/18 Gemeinde Halle Jux SPIEGELBERG   Yr Almaen

30/09/18 Kleines Haus Staatsschauspiel DRESDEN Yr Almaen

01/10/18  West Flügel SYKE  Germany

05/10/18  Theatr Ffwrnes LLANELLI

13/10/18 Ystafell Digwyddiadau LLANIDLOES

14/10/18 Hermon Chapel Arts Centre CROESOSWALLT

16/11/18  Neuadd Les YSTRADGYNLAIS

17/11/18  Y Met  ABERTYLERI

23/11/Neuadd Pentref  Y REDWIG, Casnewydd

01/12/18 Theatr y Farchnad LEDBURY


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.