This year’s flu vaccination is now available in GP practices and pharmacies.
Flu can be serious and vaccination is the best way to protect against catching or spreading it.
It is caused by a virus that affects the lungs and airways. Symptoms can come on suddenly and can include fever, chills, headache, cough, body aches and fatigue.
You are eligible for a free flu vaccination if you:
- have a long term health condition such as asthma or are immune suppressed due to illness or treatments
- are aged over 65
- pregnant
- a child aged 2 to 10 years old (in primary school)
- are an unpaid carer of someone whose health or welfare would be at risk if you caught flu
You can have your flu vaccine in your GP surgery or pop along to your local community pharmacy.
All children aged two to 10 years old (age on 31 August 2019) will be offered a nasal spray flu vaccine which is a fine mist squirted up the nose. The nasal spray has a very good safety record and millions of doses have been given in the UK. This is available at your GP practice.
Children in primary school (from reception class upwards) will be offered their nasal spray flu vaccination at school so parents and guardians should keep an eye out for consent forms over the next few weeks, sign and return them at the earliest opportunity.
Ros Jervis, Director of Public Health for Hywel Dda University Health Board, reiterated it is vital that those most at risk take advantage of the free vaccine: “Flu can be a life-threatening illness for people who are at risk due to their age, an underlying health problem such as asthma, or because they are pregnant. Sadly, flu kills people in Wales every year.
“We are calling on each and every person in Carmarthenshire, Ceredigion and Pembrokeshire to be a superprotector in the fight against flu by getting vaccinated which will make our community a safer place to live this winter.”
Carers, volunteers providing planned emergency first aid, Community First Responders and people working in care homes that have regular client contact are also entitled to the vaccine.
It’s also recommended that frontline health and social care workers have the free vaccine to protect themselves and those they care for.
Hywel Dda UHB’s Occupational Health department will be delivering flu vaccination clinics for health staff over the next few weeks and for the first time will be participating in the UNICEF initiative to ‘Get a jab, give a jab’, which encourages staff to take up the option of the free flu vaccine and, in turn, help donate towards inoculating people in developing countries.
Be a #Superprotector today and get your flu vaccination. To find out more about the flu vaccination please visit www.beatflu.org.
Byddwch yn uwchamddiffynnwr a’ch amddiffyn eich hun ac eraill rhag y ffliw y gaeaf hwn
Mae brechiad ffliw eleni bellach ar gael mewn practisau meddygon teulu a fferyllfeydd.
Gall y ffliw fod yn ddifrifol, a brechu yw’r ffordd orau i’ch amddiffyn rhag ei ddal neu ei ledaenu.
Caiff ei achosi gan firws sy’n effeithio ar yr ysgyfaint a’r llwybrau anadlu. Gall y symptomau ymddangos yn sydyn, a gallant gynnwys twymyn, cryndod, cur pen, peswch, poenau yn y corff a gorflinder.
Rydych yn gymwys i gael brechiad ffliw yn rhad ac am ddim os yw’r canlynol yn berthnasol:
- mae gennych gyflwr iechyd hirdymor tebyg i asthma neu mae eich imiwnedd yn wael o ganlyniad i salwch neu driniaethau
- rydych dros 65 oed
- rydych yn feichiog
- rydych yn blentyn rhwng 2 a 10 oed (yn yr ysgol gynradd)
- rydych yn ofalwr di-dâl ar gyfer rhywun y byddai ei iechyd neu les mewn perygl pe byddech yn dal y ffliw
Gallwch gael eich brechu rhag y ffliw yn eich meddygfa deulu neu gallwch alw heibio i’ch fferyllfa leol.
Cynigir brechlyn ffliw trwy chwistrelliad trwynol i bob plentyn rhwng dwy a deg oed (oedran ar 31 Awst 2019); niwl mân yw hwn sy’n cael ei chwistrellu i fyny’r trwyn. Mae i’r chwistrelliad trwynol gofnod diogelwch da iawn, ac mae miliynau o ddosiau wedi cael eu rhoi yn y Deyrnas Unedig. Mae hwn ar gael ym mhractis eich meddyg teulu.
Bydd plant yn yr ysgol gynradd (o’r dosbarth derbyn i fyny) yn cael cynnig y brechiad ffliw trwy chwistrelliad trwynol yn yr ysgol, felly dylai rhieni a gwarcheidwaid gadw golwg am ffurflenni cydsyniad yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf, eu llofnodi, a’u dychwelyd cyn gynted â phosibl.
Dywedodd Ros Jervis, y Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ei bod yn hanfodol bod y rheiny y maent fwyaf mewn perygl yn manteisio ar y brechlyn rhad ac am ddim: “Gall y ffliw fod yn salwch sy’n peryglu bywyd ar gyfer pobl sydd mewn perygl o ganlyniad i’w hoedran, problem iechyd sylfaenol megis asthma, neu oherwydd eu bod yn feichiog. Yn anffodus, mae’r ffliw yn lladd pobl yng Nghymru bob blwyddyn.
“Rydym yn galw ar i bob unigolyn yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro fod yn uwchamddiffynnwr yn y frwydr yn erbyn y ffliw, a hynny trwy gael eu brechu; bydd hyn yn sicrhau bod ein cymuned yn lle mwy diogel i fyw ynddi y gaeaf hwn.”
Mae gofalwyr, gwirfoddolwyr sy’n darparu cymorth cyntaf brys wedi’i gynllunio, Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol a phobl sy’n gweithio mewn cartrefi gofal ac sydd mewn cyswllt rheolaidd â chleientiaid, hefyd yn gymwys i gael eu brechu.
Argymhellir hefyd fod gweithwyr iechyd a gofal rheng flaen yn cael y brechlyn i’w hamddiffyn eu hunain a’r rheiny y maent yn gofalu amdanynt.
Bydd adran Iechyd Galwedigaethol BIP Hywel Dda yn cynnal clinigau brechiad ffliw ar gyfer staff iechyd yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf ac, am y tro cyntaf, bydd yn cymryd rhan ym menter UNICEF, ‘Get a jab, give a jab’, sy’n annog staff i fanteisio ar yr opsiwn o gael brechiad ffliw am ddim ac, yn eu tro, helpu i gyfrannu at frechu pobl mewn gwledydd sy’n datblygu.
Byddwch yn #Uwchamddiffynnwr heddiw a chael eich brechiad ffliw. I gael rhagor o wybodaeth am y brechiad ffliw, ewch i www.beatflu.org.
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |
















