6.7 C
Llanelli
Tuesday, February 3, 2026
Home Newyddion Lle Gorsafoedd Trafnidiaeth Cymru yn cystadlu am glod Cwpan y Byd

Gorsafoedd Trafnidiaeth Cymru yn cystadlu am glod Cwpan y Byd

0
479
ChirkRailStation2019.04.18 47 scaled
ChirkRailStation2019.04.18 47 scaled

Mae pump o orsafoedd Trafnidiaeth Cymru wedi’u henwebu i gymryd rhan mewn cystadleuaeth i ddod o hyd i hoff orsaf Prydain.

Dechreuodd y pleidleisio am 09:00 ddydd Llun 12 Hydref yng Nghwpan y Byd y Gorsafoedd, cyfres o bleidleisiau Twitter a drefnwyd gan y Grŵp Cyflenwi Rheilffyrdd. Cafodd 48 o orsafoedd ym Mhrydain eu henwebu yn y rownd gyntaf, gan gynnwys pum gorsaf yng Nghymru.

Yng ngrŵp Cymru, bydd Caerdydd Canolog, Casnewydd, Abertawe a Phontypridd yn cystadlu am un lle yn y rownd gyn-derfynol, tra bod Y Waun yn rhan o’r grŵp o orsafoedd a enillodd Gwobrau’r Orsaf Orau yn y Gwobrau Rheilffordd Cenedlaethol yn ddiweddar, ar ôl cael ei henwi’n Orsaf Fach Orau Prydain.

Bydd y pleidleisio yn y rownd gyntaf yn cau am 18:00 ddydd Mercher 14 Hydref, gyda’r rownd gyn-derfynol yn cael ei chynnal yn ystod y 24 awr dilynol a phenderfynir ar ganlyniad y rownd derfynol ar Ddiwrnod Gorsafoedd sef dydd Gwener 16 Hydref.

I bleidleisio, dilynwch @RailDeliveryGrp ar Twitter. Ymunwch â’r sgwrs drwy ddefnyddio’r hashnod  #WorldCupOfStations.

Ffeithiau am y gorsafoedd

Caerdydd Canolog
– Agorwyd yn 1850
– Arfer cael ei galw’n Caerdydd Cyffredinol
– O fewn pellter cerdded i Stadiwm Principality a phencadlys BBC Cymru
– Mae gan yr orsaf blatfform 0, 1, 2, 3, 4, 6, 7 a 8, ond does dim platfform 5 erbyn hyn
– Nifer yr ymwelwyr yn 2018-19: 12,934,304

Y Waun
– Agorwyd yn 1848
– Mae’r draphont rheilffordd dros Cwm Ceiriog wrth ymyl traphont hanesyddol Thomas Telford o 1801, sy’n rhan o Safle Treftadaeth y Byd Traphont Pontcysyllte
– Bu unwaith yn gyfnewidfa gyda Thramffordd Rheilffordd Gul Glynceiriog, nes iddi gau yn 1935
– Enillydd Gorsaf Fach Orau Prydain yng Ngwobrau Rheilffordd Cenedlaethol 2020.

– Nifer yr ymwelwyr yn 2018-19: 77,106

Casnewydd
– Agorwyd yn 1850
– Arfer cael ei galw’n Stryd Fawr Casnewydd
– Yr orsaf brysuraf yng Nghymru y allan i Gaerdydd
– Un o ddwy orsaf ym Mhrydain o’r enw Newport – mae’r llall yn Essex. Roedd gorsafoedd o’r enw Newport yn Swydd Amwythig ac Ynys Wyth ar un pryd.
– Nifer yr ymwelwyr yn 2018-19: 2,745,064

Pontypridd
– Agorwyd yn 1840
– Arfer cael ei galw’n Gyffordd Pontnewydd a Phontypridd Canolog
– Arferai fod yr ynys-blatfform hiraf yn y byd
– Bydd yn elwa yn sgil dyblu nifer y gwasanaethau rheilffordd fel rhan o Metro De Cymru
– Nifer yr ymwelwyr yn 2018-19: 884,132

Abertawe
– Agorwyd yn 1850
– Arfer cael ei galw’n Stryd Fawr Abertawe
–  Yn elwa ar hyn o bryd o welliannau sy’n cael eu gwneud gan Trafnidiaeth Cymru a Network Rail
–  Arferai fod yn un o saith o orsafoedd yng nghanol y ddinas – y lleill oedd Bae Abertawe, Doc Dwyreiniol, Riverside, Stryd Rutland, St Thomas a Victoria
– Nifer yr ymwelwyr yn 2018-19: 2,156,036


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.