15.6 C
Llanelli
Saturday, August 15, 2026
Home Newyddion Lle Placiau Glas Tywyll y Brifysgol yn nodi mannau bythgofiadwy

Placiau Glas Tywyll y Brifysgol yn nodi mannau bythgofiadwy

0
754
G Owen and Plaque Thumb
G Owen and Plaque Thumb

Mae cwrdd â phartner oes, meithrin cyfeillgarwch a mwynhau gyrfa hir a hapus ymysg y profiadau bythgofiadwy sydd bellach yn cael eu coffáu ym Mhrifysgol Abertawe. 

Fel rhan o ddathliadau ei chanmlwyddiant eleni, gwahoddodd y Brifysgol fyfyrwyr, aelodau o staff a chyn-fyfyrwyr i rannu eu hatgofion arbennig o Abertawe. 

Mae’r enwebiadau llwyddiannus – ochr yn ochr ag achlysuron ac unigolion nodedig eraill o 100 mlynedd y Brifysgol – bellach wedi cael eu nodi am yr oesoedd i ddod ar ffurf plac glas tywyll arbennig. 

Nod prosiect y placiau yw dathlu pob agwedd ar fywyd y Brifysgol – o gyflawniadau myfyrwyr a digwyddiadau cymdeithasol i gerrig milltir ymchwil a buddugoliaethau ar y maes chwarae – gan helpu i drawsnewid y campysau’n safleoedd hanes byw. 

Cyfrannodd y goruchwylydd diogelwch Geraint Owen un o’r deg enwebiad llwyddiannus, gan awgrymu y dylid rhoi plac ger swyddfa’r porthor yn Nhŷ Fulton, lle dechreuodd ei swydd gyntaf fel porthor ym 1991. Yn ogystal â gweithio yn y Brifysgol ers bron 30 mlynedd, mae wedi gweld ei wyres yn graddio yno ddwywaith.

Ar ôl i’r plac gael ei ddadorchuddio, meddai Geraint: “Rwy’n teimlo’n freintiedig bod y plac hwn wedi cael ei osod yn fy enw. Diolch yn fawr.” 

Codwyd plac arall wrth y traeth ar Gampws y Bae, lle dathlodd y cyn-fyfyriwr Ahmed Ibrahim a dau o’i ffrindiau gorau cyn graddio yn 2017. 

Meddai Ahmed, sydd bellach yn ymgeisydd PhD yn yr Unol Daleithiau: “Rwyf wrth fy modd bod fy atgof wedi cael ei ddewis. Roeddwn am hel atgofion personol o Abertawe. Rwy’n ddyledus i’r Brifysgol, roedd fy amser yno’n amhrisiadwy ac mae’n amhosib talu teyrnged ddigonol mewn geiriau.”  

Mae’r lleoliadau eraill sydd wedi derbyn plac yn cynnwys yr hyn a adwaenir fel bar JC bellach ar Gampws Singleton. Yn y man hwn cyfarfu Jane Tonks a Tony Clements fel myfyrwyr ym mis Hydref 1978. Maent yn dal i ddychwelyd yn aml 42 o flynyddoedd yn ddiweddarach ar ôl magu tri phlentyn a mwynhau dwy yrfa werthfawr.

Meddai Jane: “Dyma newyddion braf iawn, yn enwedig gan fod pen-blwydd ein cyfarfod cyntaf ar ddod. Mae’n fraint bod ein hatgof wedi cael ei ddewis.”  

Lluniodd yr hanesydd Sam Blaxland ac Emily Hewitt, o Archifau Richard Burton, restr o gerrig milltir a phobl eraill. Mae’r rhain yn cynnwys y nofelydd Kingsley Amis, a addysgodd yn y Brifysgol am ddeuddeng mlynedd; yr Athro Florence Mockeridge, y cyn-bennaeth botaneg ysbrydoledig; a hyd yn oed y Brenin Siôr V, a osododd y garreg sylfaen wreiddiol ym 1920. 

Mae’r Brifysgol bellach yn comisiynu mapiau wedi’u teilwra a fydd yn manylu ar leoliadau’r placiau ac mae’n edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr i’w mwynhau pan fydd y rheoliadau cyfyngiadau symud yn caniatáu hynny. Yn y cyfamser, gall ymwelwyr archwilio pob plac yn ddigidol drwy fynd i’w tudalennau gwe, lle gellir dysgu mwy am bob atgof. 

Mwy o wybodaeth am y prosiect a’r straeon y tu ôl i’r placiau.  

Captions:

Geraint Owen a’r plac ger y porthordy yn Nhŷ Fulton.  

Rhai o’r Placiau Glas Tywyll eraill sydd bellach wedi’u gosod ym Mhrifysgol Abertawe. 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.