9 C
Llanelli
Monday, March 2, 2026
Home Newyddion Lle Trafnidiaeth Cymru’n cefnogi lansio Cerdyn Rheilffordd i Gynfilwyr

Trafnidiaeth Cymru’n cefnogi lansio Cerdyn Rheilffordd i Gynfilwyr

0
496
IMG 0370 scaled
IMG 0370 scaled

Heddiw, mae Trafnidiaeth Cymru’n cefnogi lansiad Cerdyn Rheilffordd newydd i Gynfilwyr (dydd Iau 5 Tachwedd) i gydnabod y rhai a fu’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.

Fe’i cyflwynir cyn gwasanaethau Sul y Cofio a’r Cadoediad ledled y DU y mis hwn. Bydd y cerdyn yn rhoi traean i ffwrdd ar docynnau safonol a dosbarth cyntaf i gyn-filwyr, a thraean i ail berson a enwir a hyd at bedwar o blant sy’n teithio gyda phrif ddeiliad y cerdyn.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae’r dynion a’r menywod dewr sydd wedi gwasanaethu eu gwlad yn haeddu ein cefnogaeth a’n diolch am yr aberthau y maent wedi’u gwneud, ac yn parhau i’w gwneud, ar ein rhan. Rwy’n falch y gallwn gefnogi ein Lluoedd Arfog ac mae’n briodol bod y Cerdyn Rheilffordd Cyn-filwyr newydd ar gael wrth i ni ddangos ein gwerthfawrogiad am eu hymrwymiad trwy’r gwasanaethau Cadoediad Sul y Coffa hwn.”

Bydd y Cerdyn Rheilffordd disgownt i Gynfilwyr ar gael ar draws holl wasanaethau rheilffyrdd y DU. Mae isafswm tocyn o £12 yn berthnasol ar bob taith a wneir rhwng 04:30 a 09:59 o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio Gwyliau Cyhoeddus ac yn ystod misoedd Gorffennaf ac Awst.https://www.youtube.com/embed/8WN5awbTcdE

Meddai James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru: “Mae Trafnidiaeth Cymru’n falch o gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog gyda chyflwyniad Cerdyn Rheilffordd newydd i Gynfilwyr.

“Ym mis Mawrth fe wnaethom ni lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog, gan ymrwymo i drin y rhai sy’n gwasanaethu neu a fu’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog a’u teuluoedd yn deg a pharchus yn y cymunedau, yn ein heconomi ac mewn cymdeithas, fel teyrnged iddynt am wasanaethu â’u bywydau.

“Mae’r Cerdyn Rheilffordd i Gynfilwyr yn gam nesaf pwysig fel rhan o’r ymrwymiad hwnnw ac yn ffordd i ni ddangos ein gwerthfawrogiad i bawb sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.”

Mae’r Cerdyn Rheilffordd i Gynfilwyr ar gael mewn fformat digidol neu safonol a gall unrhyw un yn y Lluoedd Arfog wneud cais gan ddefnyddio ei gerdyn adnabod Amddiffyn, cerdyn adnabod Cynfilwr neu dystysgrif gwasanaeth/rhyddhau.

Mae’n costio £21 am flwyddyn neu £61 am dair blynedd hyd at 31 Mawrth 2021, yna £30 am flwyddyn neu £70 am 3 blynedd o Ebrill 2021.

Gellir gwneud ceisiadau ar-lein yn https://www.veterans-railcard.co.uk, neu drwy’r post – mae rhagor o fanylion am sut i wneud cais yma: www.veterans-railcard.co.uk/where-to-buy/.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.