5.3 C
Llanelli
Wednesday, February 4, 2026
Home Farming Cyfle i ddysgu sut i gynyddu cynnyrch llaeth yn ystod gweminar dan...

Cyfle i ddysgu sut i gynyddu cynnyrch llaeth yn ystod gweminar dan arweiniad arbenigwr ar ymddygiad gwartheg

0
484
Joep Driessen
Joep Driessen

Bydd arbenigwr ar ymddygiad gwartheg yn helpu ffermwyr llaeth i ddysgu sut i ddarllen arwyddion corfforol eu gwartheg a defnyddio hynny i reoli’r fuches, yn ystod gweminar Cyswllt Ffermio’r mis hwn.

Dywed y milfeddyg o’r Iseldiroedd, Joep Driessen, o gwmni CowSignals®, fod y ffermwyr sy’n perfformio orau yn deall gofynion eu gwartheg.

Trwy ddarllen arwyddion corff y fuwch, gellir cynyddu hirhoedledd a pherfformiad.

Yn ystod gweminar Cyswllt Ffermio a gynhelir ar 19 Tachwedd, bydd Mr Driessen yn annog ffermwyr i fod yn ymwybodol o arwyddion corfforol eu gwartheg.

Gallai ymwybyddiaeth o’r arwyddion hyn a chanolbwyntio ar ofynion hanfodol o ran bwyd, dŵr, golau a lle gynyddu cynhyrchiant, o dair i bum llaethiad, ynghyd â lleihau costau meddai Mr Driessen.

Bydd y weminar yn gysylltiedig gyda diweddariad oddi ar fferm Erw Fawr, safle arddangos Cyswllt Ffermio ger Caergybi, lle mae prosiect ar waith ar hyn o bryd sy’n canolbwyntio ar iechyd a lles gwartheg sydd newydd ddod â lloi.

Yn ôl Rhys Davies, Swyddog Technegol Llaeth Cyswllt Ffermio, bydd yr hyn a fydd yn cael ei drafod yn galluogi ffermwyr Cymru i ddeall y syniadau diweddaraf yn ymwneud â rheoli buchod llaeth.

“Bydd yn annog ffermwyr i edrych, meddwl a gweithredu yn seiliedig ar arwyddion y fuwch,” meddai.

“Bydd Joep yn egluro pam y dylai ffermwyr gwestiynu beth maen nhw’n ei weld, pam mae’n digwydd a beth mae’n ei olygu wrth arsylwi gwartheg.”

I gymryd rhan yn y weminar a gynhelir rhwng 19:30-20:30, mae angen i chi gofrestru eich diddordeb erbyn 15:00 ar y diwrnod. Ewch i llyw.cymru/cyswlltffermiodigwyddiadau i gofrestru, neu e-bostiwch delyth.evans@menterabusnes.co.uk

 Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.