Mae disgyblion yn ardal Aberdaugleddau wedi bod yn dathlu cynnyrch lleol ac yn dysgu am sut maeân cael ei gynhyrchu fel rhan oâr prosiect Gwreiddiau/Roots, syân cael ei ariannu gan South Hook LNG ac Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ac yn cael ei ddarparu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Sefydlwyd y prosiect Gwreiddiau/Roots ddechrauâr flwyddyn er mwyn gwella dealltwriaeth plant o gynnyrch naturiol aâr rhwydweithiau bwyd yn eu cymunedau eu hunain. Gydaâr bwriad o gryfhauâr cysylltiadau rhwng ysgolion a chynhyrchwyr bwyd lleol, maeâr sesiynau yn yr awyr agored wedi bod yn boblogaidd iawn yn yr amgylchedd dysgu sydd ohoni ar Ă´l y cyfnod clo.
Dywedodd Tom Bean, Parcmon Addysg y Parc Cenedlaethol: âEr bod ysgolion a disgyblion ledled y wlad wedi wynebu heriau sylweddol eleni, mae wedi bod yn hyfryd gweld sut maen nhw wedi croesawu ffyrdd newydd o ddysgu aâr gwersi y gall yr awyr agored eu haddysgu.
âErs mis Medi, mae nifer o ysgolion cynradd wedi cymryd rhan yn y rhaglen hon, yn cynnwys Ysgol Gynradd Gymunedol Johnston, Ysgol Gymunedol Neyland, Ysgol Gatholig Sant Ffransis ac Ysgol y Glannau.
âTyfodd disgyblion yn Ysgol Sant Ffransis eu gwenith eu hunain, a gafodd ei faluân flawd gan ddefnyddio melin law o Felin Lanw Caeriw. Ymhlith y gweithgareddau eraill a wnaed mae plannu, tyfu, pigo afalau, ymweld â ffermydd, astudio cynefinoedd a thrawsnewid ardaloedd yn yr awyr agored.â
Mae gwaith ar y gweill i greu ardaloedd tyfu ac ardal dysgu yn yr awyr agored yn Ysgol Gelliswick ddiwedd y flwyddyn.
âRydyn ni mor falch o gefnogiâr prosiect yma a gwaith Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i roi ffordd i blant gysylltu âân hamgylchedd lleol aâr holl gynhyrchwyr syân cefnogi rhwydweithiau bwyd yn ein Sirâ, meddai Mariam Dalziel, Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus South Hook LNG.
I ddysgu mwy am y rhaglenni dysgu yn yr awyr agored sydd ar gael i ysgolion ewch i www.arfordirpenfro.cymru/i-ysgolion-ac-addysgwyr .
Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn elusen gofrestredig a sefydlwyd i helpu i ofalu am y Parc Cenedlaethol a’i ddiogelu. I gael rhagor o wybodaeth am yr elusen aâr gwaith maeân ei gefnogi ewch i www.ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru.
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |













