8.7 C
Llanelli
Wednesday, March 4, 2026
Home Newyddion Lle Dod o hyd i le er mwyn cadw pellter cymdeithasol ar drenau...

Dod o hyd i le er mwyn cadw pellter cymdeithasol ar drenau gyda Gwiriwr Capasiti newydd

0
619
Capacity checker 1 scaled
Capacity checker 1 scaled

Mae Trafnidiaeth Cymru yn lansio Gwiriwr Capasiti, i helpu cwsmeriaid i wirio cyn teithio pa drenau allai fod â’r mwyaf o le er mwyn gallu cadw pellter cymdeithasol yn sgil COVID-19.

Mae’r porth ar-lein newydd ar gael yn www.trctrenau.cymru neu ar ap TfW Rail ac mae’n dangos i gwsmeriaid pan fydd digon o le ar drenau fel arfer, pan fyddant yn weddol brysur neu’n debygol o fod yn llawn, er mwyn iddyn nhw allu cynllunio ymlaen llawn a dewis y gwasanaeth sy’n addas iddyn nhw.

Gan fod y ‘cyfnod atal byr’ wedi dod i ben a’r cyfyngiadau teithio yng Nghymru wedi cael eu dileu, bydd y gwiriwr capasiti yn helpu cwsmeriaid i deithio’n saffach a chadw pellter cymdeithasol ar drenau.

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:

“Diogelwch ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr yw ein prif flaenoriaeth o hyd a bydd y gwiriwr capasiti yn cryfhau ein mesurau diogelwch yn wyneb COVID-19. Gan fod y cyfyngiadau teithio wedi cael eu dileu yng Nghymru, rydw i’n annog pob cwsmer i ddefnyddio’r cyfleuster ar-lein newydd ac i barhau i ddilyn ein cyngor ar deithio’n saffach.

“Mae hefyd yn bwysig bod y cyhoedd yng Nghymru yn deall, er bod cyfyngiadau teithio wedi cael eu dileu yng Nghymru, na chaniateir teithio i lefydd y tu allan i Gymru o hyd oni bai fod esgus rhesymol dros orfod gwneud hynny.”

Ychwanegodd Leyton Powell, Cyfarwyddwr Diogelwch a Sicrwydd Trafnidiaeth Cymru:

“Drwy gydol y pandemig, rydyn ni wedi rhoi rhaglen fanwl ar waith i sicrhau diogelwch ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr, gan gynnwys glanhau ychwanegol a mwy trylwyr, cyfleusterau diheintio dwylo, systemau ciwio, systemau unffordd a threfniadau cadw pellter cymdeithasol.

“Mae’r Gwiriwr Capasiti yn ychwanegiad gwych a fydd yn helpu gyda diogelwch. A fyddai ein holl gwsmeriaid cystal â’i ddefnyddio i helpu i ddewis yr amser mwyaf diogel i deithio”.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.