9 C
Llanelli
Saturday, March 7, 2026
Home Hywel Dda Health Charities Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Ysbyty De Sir Benfro yn ymgymryd ag antur...

Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Ysbyty De Sir Benfro yn ymgymryd ag antur newydd er budd elusen

0
226
Mandy Doble

Mae Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Cymunedol wedi penderfynu, yn 63 oed, ei bod hi’n bryd her newydd.

Bydd Mandy Doble, sy’n gweithio i’r Clinigau Cymunedol yn Ysbyty De Sir Benfro, yn ymgymryd â her neidio allan o awyren yn Abertawe ar 18 Ebrill, i gyder budd elusen.

Bydd Mandy yn codi arian ar gyfer Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, sy’n cefnogi’r Clinigau Cymunedol.

Dywedodd: “Yn 63 oed, rydw i wedi penderfynu ei bod hi’n bryd am antur go iawn!

“Bydd yr arian a godir yn mynd tuag at wella gofal cleifion, cysur a phrofiad i’r bobl sy’n dibynnu ar ein gwasanaethau bob dydd. Mae’r her yn enfawr i mi – cyffrous ac ychydig yn frawychus ond yn hollol werth chweil os yw’n helpu i wneud gwahaniaeth i’n cleifion.”

Ychwanegodd Mandy: “Os hoffech chi fy nghefnogi, byddwn i mor ddiolchgar. Gyda’n gilydd, gallwn helpu i wella gofal i’n cymuned. Diolch yn fawr am eich caredigrwydd a’ch anogaeth!”

Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian ar gyfer Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Mae Mandy yn godwr arian anhygoel ac yn gefnogwr ymroddedig i Elusennau Iechyd Hywel Dda. Y llynedd, ymgymerodd yn ddewr â’r Sialens Llinell Sip, ac eleni mae hi’n mynd hyd yn oed yn fwy trwy gwblhau naid am nawdd i godi arian hanfodol ar gyfer ei gwasanaeth.

“Ni allwn ddiolch digon iddi am ei hymrwymiad anhygoel. Dangoswch eich cefnogaeth I Mandy, rydyn ni’n gobeithio y byddwch chi’n cael profiad bythgofiadwy.”

Gallwch gefnogi achos Mandy trwy gyfrannu i’w thudalen Enthuse, yma:https://hyweldda.enthuse.com/cf/mandy-s-skydive-challenge

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i https://hywelddahealthcharities.nhs.wales/


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.