8.7 C
Llanelli
Sunday, March 1, 2026
Home Transport Bydd Trafnidiaeth Cymru yn defnyddio staff ychwanegol ar draws ei rwydwaith y...

Bydd Trafnidiaeth Cymru yn defnyddio staff ychwanegol ar draws ei rwydwaith y penwythnos

0
521

Bydd Trafnidiaeth Cymru yn defnyddio staff ychwanegol ar draws ei rwydwaith y penwythnos hwn yn dilyn cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae nifer y teithwyr wedi bod yn cynyddu ers i’r ‘cyfnod atal dros dro’ ddod i ben yng Nghymru ddydd Llun 9 Tachwedd, yn enwedig gyda’r nos ac ar y penwythnos.

Gyda theithwyr yn teithio i’r dinasoedd a’r trefi i fanteisio ar y sêls cyn y Nadolig a chefnogwyr rygbi yn mynd i’r tafarndai i wylio Cymru yn chwarae Lloegr ddydd Sadwrn, disgwylir i nifer yr ymwelwyr gynyddu.  

Mae TrC a’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn annog pobl i gynllunio ymlaen llaw, cael cyngor ar deithio a defnyddio’r Gwiriwr Capasiti a lansiwyd yn ddiweddar i osgoi cyfnodau prysur.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

“Hoffwn ddiolch i’r mwyafrif helaeth o bobl sy’n teithio ar ein trenau mor gyfrifol – yn ogystal â staff Trafnidiaeth Cymru a Heddlu Trafnidiaeth Prydain sy’n sicrhau bod pob teithiwr yn cyrraedd pen ei daith yn ddiogel.

“Bydd cadw pellter wrth bobl eraill lle bo’n bosib a gwisgo gorchudd wyneb, oni bai eich bod wedi’ch eithrio, yn helpu i atal y feirws ofnadwy hwn.”

Y penwythnos diwethaf, cafodd bron 200 o aelodau’r cyhoedd eu hatal rhag teithio gan staff TrC am beidio â gwisgo gorchudd wyneb, am ymddygiad gwrthgymdeithasol ac am nad oeddent yn ffit i deithio.

Bu’n rhaid gofyn i fwy na 2,000 o bobl ar draws y rhwydwaith wisgo gorchudd wyneb, sy’n ofyniad cyfreithiol ar bob math o drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.

Dywedodd Leyton Powell, Cyfarwyddwr Diogelwch a Sicrwydd TrC: “Mae rhwydwaith Cymru a’r Gororau yn un o’r rhai mwyaf diogel yn y DU, diolch i waith caled TrC a staff yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ac ymddygiad cyfrifol y mwyafrif helaeth o’n teithwyr.

“Gan fod nifer y teithwyr wedi cynyddu yn ystod yr wythnosau diwethaf, yn anffodus rydyn ni hefyd wedi gweld cynnydd bach mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol a phobl yn gwrthod cydymffurfio â’r rheolau o ran gorchuddion wyneb.

“Hoffem dawelu meddwl ein cwsmeriaid ein bod wedi lleoli staff ychwanegol ar drenau ac mewn gorsafoedd, yn enwedig ar y penwythnos, gan helpu i gadw pawb sy’n defnyddio ein rhwydwaith yn ddiogel.

“Wrth i ni nesáu at gyfnod y Nadolig, rydyn ni’n cyflwyno hyd yn oed mwy o fesurau i helpu pobl nad ydynt yn ffit i deithio am eu bod wedi yfed gormod o alcohol. Mae hyn yn cynnwys cynnig seibiant i bobl agored i niwed, staff i gynnig dŵr iddynt a’r defnydd o fannau gorffwys hyd nes eu bod yn ddiogel i deithio.”

Dywedodd Jon Cooze, Prif Arolygydd yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig: “Bydd ein swyddogion a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn parhau i batrolio’r rhwydwaith rheilffyrdd, gan helpu staff y rheilffyrdd i atgoffa teithwyr am bwysigrwydd cadw pellter cymdeithasol a’r ffaith bod angen i’r rheini sy’n teithio wisgo gorchuddion wyneb.

“Rydym yn annog y cyhoedd i barhau i ymddwyn yn gyfrifol a chwarae eu rhan wrth helpu i amddiffyn eu hunain, a’i gilydd, trwy ddilyn y canllawiau a’r cyfyngiadau a nodwyd gan y Llywodraeth, yn ogystal â chydymffurfio â’r gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb.”

Mae rhagor o gyngor ar deithio ar gael yn www.trc.cymru/cy/deithion-saffach


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.