5.4 C
Llanelli
Tuesday, February 3, 2026
Home Newyddion Lle Astudiaeth sy’n ymchwilio i alcohol yn cael grant gan elusen

Astudiaeth sy’n ymchwilio i alcohol yn cael grant gan elusen

0
527
Gypsy caravan wendy CORNIQUET Pixabay
Gypsy caravan wendy CORNIQUET Pixabay

Mae prosiect o Brifysgol Abertawe wedi cael cyllid i ymchwilio i’r defnydd o alcohol gan bobl o gefndiroedd sipsiwn, Roma a theithwyr. 

Roedd prosiect y tîm o Abertawe’n un o bedwar a ddewiswyd i gael cymorth dan raglen grantiau New Horizons yr elusen Alcohol UK, sy’n cefnogi ymchwil academaidd i feithrin dealltwriaeth well o grwpiau, cymunedau ac effeithiau niweidiol alcohol. 

Bydd yr astudiaeth – Telling our own stories: an exploratory study of alcohol use and harm by people who identify as Roma, Gypsies and Travellers – yn cael cyllid o fis Ebrill 2021. 

Meddai Louise Condon, Athro Nyrsio yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd: “Mae’r prosiect hwn yn bwysig gan fod sipsiwn a theithwyr ymhlith y lleiafrifoedd ethnig mwyaf sefydlog yn y DU sy’n wynebu gwahaniaethu, ond hwy sy’n dioddef fwyaf o safbwynt iechyd.  

“Bydd ymchwilwyr cymheiriaid yn gweithio gyda’r tîm ymchwil academaidd i ddechrau’r broses o  archwilio arferion diwylliannol o ran yfed alcohol a bydd astudiaethau digidol wedi’u recordio yn cynnig adnodd i lywio’r gwaith o hyrwyddo iechyd.” 

Bydd yr Athro Condon yn gweithio ochr yn ochr â Dr Filiz Celik, tiwtor seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe a seicotherapydd systemig a theuluol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda; yr ymchwilydd iechyd cyhoeddus a’r myfyriwr PhD Suzannah Hargreaves o Brifysgol Salford; a’r  gweithiwr eirioli sipsiwn, Roma a theithwyr Sam Worrall. 

Ffurfiwyd Alcohol Change UK drwy uno Alcohol Concern ac Alcohol Research UK. Dewiswyd thema grwpiau, cymunedau ac effeithiau niweidiol alcohol ar gyfer ceisiadau am grantiau ymchwil gan y crybwyllir diwylliant, hunaniaeth ac ystyr yn aml mewn trafodaethau sy’n ymwneud ag yfed alcohol. 

Y canlynol yw’r prosiectau eraill sydd wedi llwyddo i gael cyllid: 

  • Supporting solutions for South Asian women: Developing models for substance use support, a fydd yn archwilio sut mae diwylliant, crefydd a rhywedd yn helpu neu’n atal menywod rhag cael gafael ar gymorth, yn ogystal â safbwyntiau ymarferwyr ar y gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd; 
  • Exploring communities of belonging around drink, a fydd yn archwilio sut mae alcohol yn effeithio ar brofiad pobl sy’n perthyn i grwpiau ymylol yng ngogledd Lloegr. Bydd yr ymchwilwyr yn gweithio gyda phobl LGBT+, pobl â’u gwreiddiau yn Ne Asia, a chymunedau o Ddwyrain Ewrop mewn lleoliadau gwledig a threfol; 
  • Understanding the association between mental health and alcohol use in Black, Asian and Minority ethnic groups, a fydd yn ystyried patrymau yfed a chymhellion pobl o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig â phroblemau iechyd meddwl. 

Yn ôl yr elusen, mae’r rhaglen New Horizons yn ceisio cyflwyno gwaith ymchwil gwahanol a blaengar sy’n edrych tuag at y dyfodol. 

Ei nod yw creu effaith drwy fynd ati i helpu’r timau ymchwil i rannu eu canlyniadau â phobl a all ymateb iddynt drwy weithredu ar y canfyddiadau a newid polisïau neu arferion. Bydd hefyd yn galluogi timau ymchwil i gydweithio i rannu syniadau, llywio ymchwil ei gilydd a churadu allbwn ar draws y rhaglen, gan ddod â themâu a dysgu cyffredin ynghyd. 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.