9.9 C
Llanelli
Sunday, March 1, 2026
Home Government TUC Cymru yn croesawu deddfwriaeth Llywodraeth Cymru ar weithleoedd a siopau

TUC Cymru yn croesawu deddfwriaeth Llywodraeth Cymru ar weithleoedd a siopau

0
439
Shavanah Taj profile Wales TUC
Shavanah Taj profile Wales TUC

Wrth ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw (15 Ionawr) ar gryfhau deddfwriaeth i sicrhau bod gweithleoedd a siopau yn fwy diogel dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:

“Rydym yn croesawu’n gryf y mesurau newydd hyn i amddiffyn gweithwyr a’r cyhoedd ymhellach rhag y coronafeirws. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar bryderon gweithwyr ac wedi gweithredu’n gyflym i fynd i’r afael â nhw. Gwyddom fod llai na chwarter y cyflogwyr yng Nghymru wedi bod yn dilyn y canllawiau ar asesiadau risg yn llawn, felly mae cryfhau’r gofynion sy’n ymwneud â hyn yn gam pwysig iawn.

“Ta waeth ble mae rhywun yn gweithio na beth maen nhw’n ei wneud, ni ddylen nhw fod mewn mwy o berygl o ddal coronafeirws yn y gwaith os oedd mesurau y dylai eu cyflogwr fod wedi’u rhoi ar waith i’w hamddiffyn. Mae hyn yn golygu cynnal asesiadau risg, eu rhannu â staff, gweithredu’r newidiadau angenrheidiol a’u hadolygu’n rheolaidd, i gyd mewn ymgynghoriad â’r gweithlu a’u hundebau. Rydym yn hyderus y bydd y mesurau hyn yn gwireddu hyn i filoedd yn fwy o weithwyr ledled Cymru. Edrychwn ymlaen yn awr at weithio gyda’r llywodraeth a chyflogwyr ar fanylion y rheoliadau newydd i wneud ein gweithleoedd yn fwy diogel.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.