16.8 C
Llanelli
Saturday, August 15, 2026
Home Newyddion Lle Y Brifysgol yn helpu mwy na 250 o ddisgyblion i barhau i...

Y Brifysgol yn helpu mwy na 250 o ddisgyblion i barhau i ddarllen yn ystod y cyfyngiadau symud diweddaraf

0
538
TW pack contents scaled
TW pack contents scaled

Mae disgyblion Blwyddyn 7 mewn dwy ysgol leol wedi cael eu hannog i ddarllen ac i hybu eu llythrennedd yn ystod y cyfyngiadau symud, diolch i brosiect Prifysgol Abertawe. 

Mae Partneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach De-orllewin Cymru yn cynnal dau glwb llyfrau ar y cyd â dwy ysgol er mwyn annog pobl ifanc i ddarllen llyfrau ac ymddiddori ynddynt, gan hybu eu llythrennedd ar yr un pryd.  

Mae’r Bartneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach, sy’n cynnwys Prifysgol Abertawe, yn gweithio gyda disgyblion, teuluoedd ac oedolion o ardaloedd difreintiedig yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gâr a Sir Benfro, ochr yn ochr â gofalwyr a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal ledled y rhanbarth.

Mae disgyblion Ysgol Gymunedol Dylan Thomas yn rhan o glwb llyfrau sy’n canolbwyntio ar The Goldfish Boy gan Lisa Thompson, nofel am rywun yn ei arddegau sy’n dioddef o anhwylder gorfodaeth obsesiynol. Mae’r llyfr hwn yn helpu disgyblion i ddeall iechyd meddwl ac i feithrin empathi tuag at bobl eraill. 

Mae disgyblion Blwyddyn 7 yn Ysgol Gyfun Cefn Saeson yn darllen The Witches gan Roald Dahl. Dewiswyd y llyfr gan y disgyblion. 

Cynhelir y ddau glwb llyfrau ar ffurf rithwir yn bennaf ac mae tîm Ymgyrraedd yn Ehangach yn lanlwytho adnoddau bob wythnos. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys cwisiau, gweithgareddau paru, yn ogystal â fideos a deunydd sain a grëwyd gan y tîm. 

Mae pedwar myfyriwr ymroddedig sy’n cynrychioli Ymgyrraedd yn Ehangach fel arweinwyr hefyd yn creu cynnwys fideo a sain, gan ffilmio clipiau byr yn seiliedig ar bennod yr wythnos. 

Mae hyn yn rhoi cyfle i’r disgyblion gwrdd ar ffurf rithwir â myfyrwyr prifysgol o amrywiaeth o feysydd, yn ogystal â chyflwyno patrymau ymddwyn iddynt o ran llythrennedd, gan hyrwyddo’r syniad bod darllen yn rhywbeth difyr i’w wneud yn eich amser rhydd, yn hytrach na dim ond rhywbeth y bydd myfyrwyr llenyddiaeth yn ei wneud at ddibenion gwaith. 

Fodd bynnag, fel cymhelliant i gymryd rhan yn y clwb llyfrau, anfonwyd pecynnau ffisegol at bob disgybl, gan gynnwys y llyfr, pinnau ysgrifennu, nod tudalen, a gweithgareddau’r wythnos gyntaf. Yna caiff y disgyblion becyn ffisegol bob pedair neu chwe wythnos. 

Meddai Dr Heidi Yeandle, Cydlynydd Digwyddiadau Ymgyrraedd yn Ehangach a threfnydd y clybiau: “Mae’r prosiect hwn yn rhoi llyfr newydd i bawb sy’n cymryd rhan yn ogystal â’r cyfle i glywed ffyrdd gwahanol o ddehongli neu ystyried nofel – rhywbeth na fyddant wedi ei gael fel arall o bosib. Gobeithio y bydd yn ennyn brwdfrydedd dros ddarllen yn achos pobl ifanc nad oeddent yn meddu ar y brwdfrydedd hwnnw gynt.” 

Ychwanegodd Shania Evans, cynorthwy-ydd dros dro’r rhaglen, sy’n gyfrifol am greu’r adnoddau: “Yn ogystal ag ysgogi’r disgyblion i gymryd rhan, roeddem am sicrhau bod yr un adnoddau a chyfarpar ar gael i bawb. Rydym am roi hwb iddynt drwy ddarparu adnoddau ffisegol difyr a deniadol y gallant eu defnyddio wrth gael eu haddysgu gartref.”   

Bydd y clybiau llyfrau’n parhau tan fis Mai a bydd clybiau llyfrau newydd yn dechrau yn yr haf. 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.