5.4 C
Llanelli
Tuesday, February 3, 2026
Home Local News Arbenigwyr yn cydweithio i gadw plant yn ddiogel ar-lein

Arbenigwyr yn cydweithio i gadw plant yn ddiogel ar-lein

0
469
Nuria Lorenzo Dus 2 Jan 21 scaled
Nuria Lorenzo Dus 2 Jan 21 scaled

Mae Prifysgol Abertawe’n arwain y frwydr yn erbyn camfanteisio’n rhywiol ar blant ar-lein ar ôl cael cyllid sylweddol am brosiect arloesol newydd sy’n canolbwyntio ar atal perthnasoedd amhriodol ar-lein. 

Bydd Prosiect DRAGON-S (Gwrthsefyll Perthnasoedd Amhriodol Ar-lein – Nodi a Gwarchod), a fydd yn para am ddwy flynedd, yn defnyddio arbenigwyr i ddatblygu adnoddau ieithyddol a deallusrwydd artiffisial er mwyn helpu i nodi achosion o berthnasoedd amhriodol ar-lein. Bydd y prosiect hwn yn cael cymorth ariannol cronfa End Violence, sydd wedi buddsoddi $44m mewn 52 o brosiectau i geisio atal pobl rhag cael eu cam-drin yn rhywiol ar-lein ledled y byd. 

Bydd y prosiect hefyd yn rhannu gwybodaeth arbenigol drwy borth dysgu a sgwrsfot er mwyn atgyfnerthu gallu gweithwyr proffesiynol ym maes diogelu plant i warchod plant rhag bod yn destun perthynas amhriodol ar-lein. 

Mae’r Athro Nuria Lorenzo-Dus o Brifysgol Abertawe yn arwain y prosiect ar y cyd â Dr Adeline Paiement o Brifysgol Toulon. Byddant yn cydweithio â phartneriaid y prosiect – gan gynnwys Cangen Cadernid Digidol mewn Addysg Hwb Llywodraeth Cymru; Tarian, sef Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol De Cymru; a sefydliadau’r trydydd sector yn Awstralia, Canada, Seland Newydd a’r Unol Daleithiau yn ogystal ag yng Nghymru a’r DU. 

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, amcangyfrifir bod 750,000 o unigolion yn ceisio paratoi plant i bwrpas rhyw ar unrhyw adeg benodol. Mae adroddiadau am ddeunydd cam-drin plant yn rhywiol yn tyfu’n gyflymach ac yn gyflymach – cafwyd 40 y cant o’r 23.4 miliwn o adroddiadau am ddeunydd cam-drin plant yn rhywiol yn 2017 yn unig.  

Meddai’r Athro Lorenzo-Dus: “Mae pobl sy’n mynd ati i feithrin perthnasoedd amhriodol ar-lein yn defnyddio iaith i ddenu dioddefwyr. Maent yn defnyddio dulliau cyfathrebu er mwyn meithrin a bradychu ymddiriedaeth plant, gan fanteisio ar eu cymdeithasgarwch, eu caredigrwydd a’u chwilfrydedd. Rhaid rhoi terfyn ar y math hwn o gamfanteisio a cham-drin. 

“Bydd DRAGON-S yn galluogi gweithwyr proffesiynol ym maes diogelu plant i nodi tactegau ieithyddol troseddwyr a gwella eu dulliau atal.” 

Mae’r prosiect newydd hwn yn adeiladu ar arbenigedd Abertawe o ran dod o hyd i atebion ymchwil ieithyddol a deallusrwydd artiffisial integredig sydd eisoes yn helpu i amddiffyn plant, ar-lein ac all-lein. 

Bydd hefyd yn manteisio ar ddoniau ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, yn ogystal ag academyddion o bob rhan o’r Brifysgol. 

Ychwanegodd yr Athro Lorenzo-Dus: “Dyma bartneriaeth ryngddisgyblaethol go iawn. Yr hyn sy’n ein huno yw ein hymrwymiad brwd i atal pobl rhag meithrin perthnasoedd rhywiol â phlant ar-lein, drwy ymchwil arloesol a chydweithio.” 

Mae Prosiect DRAGON-S wedi cael cyllid gwerth mwy na $500,000 drwy gronfa End Violence, sy’n cefnogi prosiectau ac unigolion ledled y byd. 

Ychwanegodd yr Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe â chyfrifoldeb am ymchwil ac arloesi: “Mae Prosiect DRAGON-S yn cyfleu tri o werthoedd ymchwil allweddol Prifysgol Abertawe – cyfuno disgyblaethau, cael effaith gymdeithasol a sicrhau dylanwad byd-eang. 

“Bydd ymdrechion yr Athro Lorenzo-Dus a’i thîm yn gwneud cyfraniad pwysig at warchod plant sy’n agored i niwed rhag bod yn destun perthynas amhriodol ar-lein.”  

Mae Prifysgol Abertawe’n ddiolchgar i gronfa End Violence am roi cymorth ariannol i’r rhaglen hon. 

Darllenwch fwy am yr Athro Lorenzo-Dus a Phrosiect DRAGON-S 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.