9.3 C
Llanelli
Thursday, March 5, 2026
Home Local News Carmarthenshire News Gallai miloedd o bobl yng Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin fod yn gymwys...

Gallai miloedd o bobl yng Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin fod yn gymwys am gyrsiau am ddim i’w helpu i ailhyfforddi

0
526
Childcare scaled
Childcare scaled

Mae miloedd o bobl yng Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin nawr yn gymwys am hyfforddiant am ddim i newid eu gyrfa drwy sefydlu Cyfrif Dysgu Personol.

Fel rhan o raglen Llywodraeth Cymru, mae Colegau Ceredigion a Choleg Sir Gâr yn cynnig sawl cwrs am ddim mewn sectorau sy’n debygol o fod â chyfleoedd gwaith, gan gynnwys adeiladu, cyllid, TG, iechyd a diogelwch, rheoli prosiectau a pheirianneg.

Mae’r rhaglen ar gyfer pobl sydd ar ffyrlo ar hyn o bryd, ar gontract dim oriau, neu sydd mewn perygl o golli eu swydd, cyn belled â’u bod yn 19 oed neu drosodd ac yn ennill llai na £26,000.

Yn dilyn peilot llwyddiannus gyda Choleg Gwent a Grŵp Llandrillo Menai a welodd tua 500 o bobl o bob cwr o Gymru’n ymrestru ar gyrsiau rhan-amser wedi’u hariannu’n llawn, mae Cyfrifon Dysgu Personol nawr ar gael ledled Cymru gyda’r nod o helpu miloedd o bobl i hybu eu sgiliau a’u gallu i gael gwaith.

Cynlluniwyd y cyrsiau hyn yn arbennig i gyfateb i’r bylchau sgiliau a nodwyd mewn sectorau blaenoriaeth yng Nghymru. Mae cyflogwyr a rhanddeiliaid wedi gweithio mewn partneriaeth â cholegau i ddatblygu cyrsiau sy’n berthnasol i sectorau y mae disgwyl iddynt greu cyfleoedd swyddi nawr ac yn y dyfodol agos.

Mae’r holl gyrsiau yn rhai rhan-amser a hyblyg ac wedi’u cynllunio ar gyfer astudio o amgylch swydd ac amgylchiadau’r unigolyn. Mae llawer yn cael eu darparu ar-lein sy’n golygu y gall staff astudio o bell, fin nos ac ar benwythnosau.

Business

Mae rhai o’r cyrsiau sy’n cael eu cynnig yng Ngholeg Ceredigion a Choleg Sir Gâr gydol mis Ionawr a mis Chwefror ar gyfer pobl sy’n rhedeg eu busnes eu hunain, ac maent yn cynnwys Strategaeth Brand, Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Busnes, Hyfforddi a Mentora, NEBOSH Rheoli’n Ddiogel ac IOSH Gweithio’n Ddiogel.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:

“Mae’r pandemig wedi effeithio ar lawer o ddiwydiannau’n anffodus, gyda llawer o bobl yn chwilio am ffyrdd o ennill sgiliau gwaith newydd, yn eu coleg lleol o bosibl.

“Mae Cyfrifon Dysgu Personol wedi’u cynllunio i helpu pobl sy’n gweithio ac sydd mewn perygl o golli eu swydd. Os ydych yn poeni am sicrwydd eich swydd, neu ar ffyrlo neu gontract dim oriau, gallai cael Cyfrif Dysgu Personol ddarparu’r sgiliau a’r cymwysterau rydych eu hangen i gychwyn ar yrfa newydd gyffrous.

“Wrth i ni weithio tuag at hawl i ddysgu gydol oes yng Nghymru, mae’r Cyfrifon Dysgu Personol yn dangos beth y gellir ei gyflawni i unigolion, yr economi a’r wlad gyfan.”

Un dysgwr sydd eisoes wedi cymryd rhan yn y cwrs Strategaeth Brand yw’r hyfforddwr personol hunangyflogedig James Cartwright. Caewyd y gampfa lle mae James yn gweithio dros y cyfyngiadau symud, a oedd yn golygu na allai James barhau â’i waith. Cwblhaodd James y cwrs Strategaeth Brand i helpu i roi hwb i’w fusnes ac, ers hynny, mae wedi cofrestru ar gyfer cwrs chwe wythnos mewn Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Busnesau

Bach.

Meddai: “Fe wnes i fwynhau’r cwrs yn fawr, a galla i ddim aros am yr un nesaf. O’r sesiwn gyntaf, mae wedi ysgogi llawer o feddwl am yr hyn rwy’n ei wneud ac mae wedi rhoi cymaint o eglurder i mi yn barod ynglŷn â ble mae angen i mi gymryd pethau.”

Dywedodd Jemma Parsons, Cydgysylltydd Prosiect PLA, Tîm Datblygu Busnes ac Ymgysylltu â Chyflogwyr yng Ngholeg Ceredigion a Choleg Sir Gâr: “Rydyn ni’n falch iawn o fod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a’r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol i gyflwyno’r Cyfrif Dysgu Personol. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gefnogi unigolion yn eu hyfforddiant a’u datblygiad i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd presennol a gyrfaoedd newydd a chyflawni eu dyheadau. Mae’r hyfforddiant hwn a ariennir wedi dod ar adeg anodd iawn i bawb.

Childcare

“Rydyn ni’n gobeithio cefnogi unigolion drwy ddysgu wyneb yn wyneb lle bo modd, gan gadw at gyfyngiadau’r Llywodraeth i sicrhau bod ein holl ddysgwyr a staff yn cadw’n ddiogel, ond rydyn ni wedi datblygu’r Ddarpariaeth Blwyddyn Newydd i gynnwys dysgu ar-lein ac mewn Ystafell Ddosbarth Rithwir.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at gynnig cyfle i unigolion a chyflogwyr uwchsgilio mewn meysydd fel Digidol a Thechnoleg, y Cyfryngau, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Adeiladu a Diwydiannau Creadigol. Mae gennym ni rai cydweithrediadau cyffrous iawn ar y gweill a fydd yn hyrwyddo’r cyfleoedd i unigolion a chyflogwyr yn y rhanbarth.”

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau yng Ngholeg Sir Gâr, ewch i:

www.colegsirgar.ac.uk/index.php/en/personal-learning-accounts

www.colegsirgar.ac.uk/index.php/cy/cyflogwyr-mobile/cyfrifon-dysgu-personol

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau yng Ngholeg Ceredigion, ewch i:

www.ceredigion.ac.uk/index.php/en/personal-learning-accounts

www.ceredigion.ac.uk/index.php/cy/personal-learning-accounts/177-pla/493-cyfrifon-dysgu-personol

Popeth sydd angen i ti ei wybod am Gyfrifon Dysgu Personol

Beth ydyn nhw?

Mae sefydlu Cyfrif Dysgu Personol yn rhoi mynediad i ti i hyfforddiant am ddim a fydd yn helpu i wella dy ragolygon gwaith a dy yrfa’n gyffredinol. Galli ddewis o blith dros 1,000 o gyrsiau mewn 10 sector yn cynnwys adeiladu, cyllid, digidol, iechyd a gofal cymdeithasol a pheirianneg, ac astudio gartref ar-lein o amgylch dy ymrwymiadau eraill.

Pwy sy’n gymwys?

Unrhyw un dros 19 oed sy’n ennill llai na £26,000 neu unrhyw un sydd ar ffyrlo ar hyn o bryd, ar gontract dim oriau, neu sydd mewn perygl o golli eu swydd.

Sut mae gwneud cais?

Mae modd gwneud cais am Gyfrif Dysgu Personol drwy Cymru’n Gweithio a siarad â chynghorydd lleol. Ffonia 0800 028 4844 neu dos i https://cymrungweithio.llyw.cymru/cysylltwch-a-ni i gael rhagor o wybodaeth.

Faint mae’n gostio?

Mae am ddim! Mae’r holl gyrsiau coleg sy’n rhan o’r rhaglen Cyfrifon Dysgu Personol wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru. Yr unig gost fydd yn rhaid i ti ei thalu yw dy dreuliau os bydd angen i ti deithio.

Pa gyrsiau alla i eu dilyn?

Construction

Mae yna gannoedd o gyrsiau ar gael gan holl golegau Cymru. Cymer olwg ar wefannau’r colegau eu hunain i gael rhagor o wybodaeth.

Dewisa o blith cymwysterau yn y meysydd canlynol:

Cyfrifeg

Busnes a rheoli

Adeiladu

TG a digidol

Peirianneg

Ffotograffiaeth

Gwasanaeth cwsmeriaid

Deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch

Manwerthu, twristiaeth a hamdden

Lletygarwch ac arlwyo

Iechyd a gofal cymdeithasol

Bwyd a’r tir

Ynni a’r amgylchedd

Oes rhaid i mi fynd i fy ngholeg lleol neu alla i astudio unrhyw le yng Nghymru?

Mae llawer o golegau’n addysgu ar-lein yn unig a gall hynny olygu y galli di edrych y tu hwnt i dy goleg lleol. Fodd bynnag, efallai y bydd dysgu wyneb yn wyneb yn ofynnol yn ystod y cwrs felly bydd angen i ti ystyried amser a chostau teithio.

Am ragor o wybodaeth, dos i https://cymrungweithio.llyw.cymru/cyfrif-dysgu-personol neu ffonia Gyrfa Cymru ar 0800 028 4844.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.