9 C
Llanelli
Monday, March 2, 2026
Home Local News Cyllid gwerth £21.5 miliwn ar gyfer atgyweirio difrod llifogydd i bontydd a...

Cyllid gwerth £21.5 miliwn ar gyfer atgyweirio difrod llifogydd i bontydd a llwybrau bordiau

0
413
WG positive 40mm
WG positive 40mm

Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dros £21.5 miliwn i helpu cynghorau ledled y wlad i atgyweirio difrod llifogydd i ffyrdd, pontydd a llwybrau bordiau.

Bydd Llwybr Bordiau Rest Bay ym Mhorthcawl a Phont Berw ym Mhontypridd yn elwa ar y buddsoddiad, a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James a’r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans:

Mae’r prosiectau sy’n derbyn cyllid yn cynnwys:

  • Cyngor Rhondda Cynon Taf a fydd yn derbyn £4.4 miliwn ar gyfer gwaith maent yn ei wneud i atgyweirio ffyrdd, pontydd, cwlfertau a waliau cynnal ar draws yr awdurdod;
  • £120,000 yn Nhorfaen i ailadeiladu ac atgyweirio wal yr afon a gafodd hysgubo i ffwrdd ym maes parcio St Alban;
  • Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn derbyn £40,000 i atgyweirio waliau, ffensys a llwybrau troed yn ardal Cyngor Cymuned Gwledig Llangollen;
  • £875,000 ar gyfer Cyngor Sir Casnewydd i atgyweirio difrod i amddiffynfeydd llifogydd ym Masaleg;
  • £718,000 yng Nghastell-nedd Port Talbot ar gyfer atgyweirio Pont Afon Blaengwrach;
  • Bydd Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn derbyn £50,000 ar gyfer gwaith atgyweirio maent wedi’i gynnal ar Lwybr Bordiau Rest Bay.

Dywedodd Julie James:  

“Flwyddyn ar ôl Storm Dennis, mae cynghorau’n parhau i atgyweirio’r difrod llifogydd difrifol i ffyrdd, pontydd, palmentydd a waliau a welwyd mewn sawl rhan o Gymru.

“Ar ôl ein hymateb brys cychwynnol, rydyn ni wedi bod yn eu cefnogi i wneud y gwaith atgyweirio parhaus hwn, a oedd yn cynnwys gwaith yr oedd angen ei wneud cyn dechrau’r gaeaf hwn i atal rhagor o ddifrod. Rwy’n falch o weld bod y cyllid hwn yn gwneud gwahaniaeth mewn cymunedau ledled Cymru.”

Dywedodd Rebecca Evans:

“Roedd y difrod a achoswyd gan stormydd y llynedd yn ergyd drom i gymunedau yng Nghymru, ac mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi awdurdodau lleol gyda’u gwaith adfer ac atgyweirio parhaus.”

 Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

“Roedd llifogydd y llynedd yn ddinistriol iawn i deuluoedd, cartrefi a busnesau ledled Cymru – felly, rwy’n falch iawn o weld yr arian ychwanegol hwn yn cael ei gyhoeddi.

“Yn dilyn y llifogydd a welwyd y llynedd, gwnaethon ni ddarparu mwy na £5 miliwn i ganiatáu atgyweirio amddiffynfeydd llifogydd yn ddi-oed. Bydd yr arian hwn yn gwella ymhellach y gwaith parhaus gyda’n hawdurdodau rheoli risg, i ddiogelu cymunedau rhag risg uwch o lifogydd”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.