9.2 C
Llanelli
Wednesday, February 4, 2026
Home Local News Galw am wirfoddolwyr i gyfrannu at ymchwil hollbwysig i chwistrell i’r trwyn...

Galw am wirfoddolwyr i gyfrannu at ymchwil hollbwysig i chwistrell i’r trwyn a allai helpu yn erbyn Covid-19

0
646
Zita Jessop scaled
Zita Jessop scaled

Mae Prifysgol Abertawe’n chwilio am wirfoddolwyr o Dde Cymru i fod yn rhan o ymchwil hollbwysig i weld a allai chwistrell i’r trwyn sydd ar gael i’w phrynu helpu i amddiffyn pobl yn erbyn Covid-19. 

Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe’n ymchwilio i weld a allai Carragelose, sy’n cynnwys math o wymon, atal salwch Covid-19 neu leihau difrifoldeb y symptomau. 

Maent yn ehangu’r ymchwil ac maent bellach am glywed gan weithwyr allweddol, megis athrawon, heddweision a staff awdurdodau lleol, neu unrhyw un sy’n parhau i ryngweithio â phobl y tu allan i’w haelwyd at ddibenion gweithio, astudio neu wirfoddoli, a hoffai gymryd rhan yn y prosiect pwysig hwn. 

Meddai Dr Zita Jessop, sy’n arwain y gwaith ymchwil: “Rydym eisoes wedi recriwtio aelodau o staff y GIG sydd ar y rheng flaen ac rydym bellach yn agor yr astudiaeth hon i weithwyr allweddol sydd heb gael prawf positif am Covid-19 ac sydd heb gael brechiad eto. Dyma gyfle i helpu i wneud gwaith ymchwil a allai fod yn arloesol ar atal Covid-19 rhag heintio pobl.” 

Profwyd yn glinigol eisoes fod Carragelose, fersiwn o iota-carrageenan sydd dan batent, yn helpu i gwtogi hyd a difrifoldeb anwydau a symptomau’r ffliw, ac mae canlyniadau astudiaeth in-vitro (tiwb profi) newydd mewn labordy yn awgrymu y gallai Carragelose hefyd leihau’r risg y bydd SARS-CoV-2, y feirws sy’n achosi Covid-19, yn heintio pobl. 

Cynhelir y treial clinigol hwn, sef ICE-COVID, gan Uned Treialon Abertawe, Prifysgol Abertawe a’r Cyfleuster Ymchwil Glinigol ar y Cyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae’r Athro Ron Eccles, arbenigwr ar anwydau a’r ffliw a chyn-gyfarwyddwr y Ganolfan Annwyd ym Mhrifysgol Caerdydd, yn un o gyd-ymchwilwyr yr astudiaeth ymchwil hon ac mae wedi bod yn gweithio gyda’r prif ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe, yr Athro Iain Whitaker, Arweinydd Arbenigedd Llawfeddygol corff Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a’r Athro Hayley Hutchings, un o gyd-gyfarwyddwyr Uned Treialon Abertawe. 

Meddai’r Athro Keith Lloyd, Pennaeth Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe: “Mae Prifysgol Abertawe’n ymrwymedig i helpu i ddod o hyd i atebion newydd a fydd yn cyfuno â mesurau iechyd cyhoeddus i’n helpu i drechu Covid-19.” 

Mae Carragelose yn gweithredu fel rhwystr yn y trwyn drwy ffurfio gel i ddal gronynnau feirysau anwydau a’r ffliw wrth iddynt gyrraedd y corff, gan leihau’r tebygolrwydd y caiff rhywun ei heintio o bosib neu leihau swm y feirws sy’n cyrraedd y corff a thrwy hynny leihau difrifoldeb y symptomau. 

Dylai unrhyw un a hoffai gymryd rhan e-bostio ei enw a’i rif ffôn cyswllt i Clinical.Research@wales.nhs.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.