5.4 C
Llanelli
Tuesday, February 3, 2026
Home Newyddion Lle Ymchwil fyd-eang i effaith ymateb llywodraethau a systemau iechyd i Covid-19 ar...

Ymchwil fyd-eang i effaith ymateb llywodraethau a systemau iechyd i Covid-19 ar bobl ddiamddiffyn

0
573
corona 5174671 scaled
corona 5174671 scaled

Mae academyddion o Brifysgol Abertawe’n cyfrannu at astudiaeth ryngwladol sy’n archwilio effaith ymatebion llywodraethau i Covid-19 ar grwpiau diamddiffyn. 

Mae COVINFORM yn un o 23 o brosiectau ymchwil newydd sy’n cael cyfanswm o €128m gan y Comisiwn Ewropeaidd i fynd i’r afael â phandemig parhaus coronafeirws a’i effeithiau. 

Mae’r Athro Sergei Shubin, cyfarwyddwr Canolfan Polisi Ymfudo’r Brifysgol, a’i gydweithwyr Louise Condon, sy’n athro nyrsio, a Dr Diana Beljaars yn rhan o COVINFORM, prosiect UE tair blynedd gydag 16 o sefydliadau partner o 11 o wledydd. 

Ers iddo ddod i’r amlwg gyntaf ym mis Rhagfyr 2019, mae Covid-19 wedi cael effaith gymdeithasol, ymddygiadol ac economaidd fyd-eang ddigynsail. Mae ei oblygiadau’n ymestyn ymhell y tu hwnt i iechyd corfforol, gan ddylanwadu ar fywyd pob dydd a lles, iechyd meddwl, addysg, cyflogaeth a sefydlogrwydd gwleidyddol. 

Sefydlwyd COVINFORM er mwyn dadansoddi’r ffordd y mae arweinwyr a chymunedau ledled y byd wedi ymateb i Covid-19, gan ganolbwyntio’n benodol ar yr effeithiau ar y bobl fwyaf diamddiffyn. 

Mae gweithwyr iechyd, grwpiau risg, pobl hŷn, plant ac ymfudwyr ymhlith y bobl sy’n dioddef yn anghymesur. 

Meddai’r Athro Shubin: “Ein nod yw deall effaith ymatebion cyrff iechyd cyhoeddus a llywodraethau i Covid-19 ar bobl ddiamddiffyn ac ymylol, ac archwilio’r mathau gwahanol o wendid sy’n dod i’r amlwg yn ystod y pandemig. 

“Mae’r rhai sy’n llunio polisïau ac arbenigwyr iechyd cyhoeddus yn cydnabod yn unfrydol fod yr argyfwng wedi cael effaith anghymesur ar y grwpiau hyn. Hyd yn oed mewn gwledydd lle cafwyd ymatebion datblygedig, mae’r argyfwng a’i oblygiadau’n peryglu lles grwpiau cymdeithasol a oedd eisoes yn wynebu bygythiad i’w bywoliaeth.”  

Yn ôl yr ymchwilwyr, mae’r doreth o wybodaeth ffug a damcaniaethau cynllwyn sydd ar gael ar-lein wedi ychwanegu at yr angen i gyfathrebu’n effeithiol yn ystod y pandemig. 

Ychwanegodd yr Athro Condon: “Gall gwybodaeth ffug ledaenu’n gyflym mewn cymunedau a thrwy gyfryngau cymdeithasol – gan arwain at ddiffyg ffydd yn negeseuon swyddogol llywodraethau a chyngor gweithwyr iechyd proffesiynol.” 

Prifysgol Abertawe yw unig gynrychiolydd Cymru yn y cydweithrediad, lle mae arbenigwyr o amrywiaeth o sefydliadau’n rhannu eu gwybodaeth er mwyn darparu dull amlddisgyblaethol o ymdrin â’r mater. 

Mae’r partneriaid eraill yn cynnwys prifysgolion, ymarferwyr a sefydliadau ymchwil yn ogystal â chynrychiolwyr diwydiant. Maent yn hanu o Awstria, Gwlad Belg, yr Almaen, Gwlad Groeg, Iwerddon, Israel, yr Eidal, Portiwgal, Rwmania, Sbaen a Sweden. 

Mae’r prosiect yn defnyddio damcaniaethau croestoriadedd a dadansoddiadau systemau cymhleth o ymatebion llywodraethau, cyrff iechyd cyhoeddus a chymunedau, yn ogystal â gwybodaeth a gohebiaeth. Caiff arferion addawol eu gwerthuso drwy astudiaethau achos sy’n cwmpasu disgyblaethau amrywiol a phoblogaethau diamddiffyn. 

Mae nodau COVINFORM yn cynnwys: 

  • gwella gwytnwch, lles ac iechyd meddwl y boblogaeth, gweithwyr rheng flaen a grwpiau diamddiffyn, a gwella anghydraddoldebau iechyd yn ystod clefydau pandemig ac yn eu sgil; 
  • cyfrannu at feithrin dealltwriaeth well o effaith, effeithiolrwydd a pharodrwydd cyrff iechyd cyhoeddus a’u hymatebion; 
  • paratoi asesiadau cyfannol o effeithiau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol yr argyfwng a’r ymatebion iddo; 
  • cynyddu parodrwydd cyfannol cyrff iechyd cyhoeddus wrth ymateb i epidemigion ar hyn o bryd ac yn y dyfodol;  
  • rhoi cyfarwyddyd i awdurdodau iechyd ar gyfer ymyriadau iechyd cyhoeddus eraill. 

Bydd y prosiect hefyd yn darparu cyfarwyddyd ac argymhellion ar gyfer polisïau mwy cynhwysol sy’n ystyried anghenion grwpiau gwahanol, yn ogystal â rhoi cyfle i aelodau o grwpiau diamddiffyn ddweud eu dweud. 

Bydd y partneriaid hefyd yn creu storfa llawn gwybodaeth am Covid-19, gan ddod ag arbenigwyr a sefydliadau rheoli trychinebau a diogelwch sifil ynghyd ac integreiddio arbenigedd ac adnoddau ynghylch Covid-19.  

Mwy o wybodaeth am brosiect COVINFORM


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.