23.8 C
Llanelli
Thursday, June 25, 2026
Home Local News Carmarthenshire News Amlinellu gwelliannau i Gyffordd Yr Hendy

Amlinellu gwelliannau i Gyffordd Yr Hendy

0
851
Welsh Governments Minister forEconomy Transport and North Wales Ken Skates
Welsh Governments Minister forEconomy Transport and North Wales Ken Skates

Mae cynlluniau i leihau tagfeydd a gwella cyfleusterau teithio llesol yng Nghyffordd 48 yr M4 wedi’u hamlinellu gan Lywodraeth Cymru.

Cyffordd 48 yn yr Hendy yw’r brif gyfnewidfa ar gyfer traffig sy’n mynd i Lanelli a Phontarddulais o’r M4. Ar hyn o bryd mae’n gweld tagfeydd sylweddol yn ystod cyfnodau brig, gyda darpariaeth gyfyngedig i’r rhai nad ydynt yn bodoli ar gyfer beicwyr sy’n pasio drwodd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £2.9m i fynd i’r afael â materion wrth y gyffordd.

Bydd y gwaith arfaethedig yn cynnwys:

  • Lledu ffordd yr A4138, gan leihau tagfeydd wrth i bobl ymuno â’r draffordd a’i gadael.
  • Darparu cyfleuster i gerddwyr a beicwyr a rennir, gan gysylltu â’r llwybr a adeiladwyd yn ddiweddar rhwng yr A4138 ac Abergwaun a darparu cyswllt parhaus rhwng yr Hendy a Llangennech.
  • Adnewyddu’r signalau traffig presennol a darparu signalau traffig newydd i wella diogelwch a lleihau ciwiau.
  • Mesurau rheoli lonydd ar yr A4138 tua’r de, er mwyn manteisio i’r eithaf ar gapasiti’r ffordd bresennol.
  • Gwelliannau i holl gyffyrdd yr M4 â’r A4138.
  • Gwelliannau amgylcheddol i wella cynefin ar gyfer pathewod.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

“Rydyn ni’n gwybod bod y gyffordd yn destun pryder sylweddol i’r bobl sy’n ei defnyddio ac felly rwy’n falch o allu amlinellu’r gwelliannau hyn.

“Mae’n rhaglen waith sylweddol a fydd yn arwain at fanteision gwirioneddol i’r ardal. Bydd y cynigion yn gwella diogelwch i gerddwyr, gyrwyr a beicwyr ac yn gwneud teithio drwy’r ardal yn fwy cyfleus.

“Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda Chyngor Sir Caerfyrddin wrth i’r cynlluniau ddatblygu, tra’n parhau i gyfathrebu â thrigolion lleol ynghylch datblygiadau mewn perthynas â’r cynllun.”

Datblygwyd y cynllun ar y cyd â Chyngor Sir Caerfyrddin, a fydd yn rheoli’r gwaith adeiladu ar ran Llywodraeth Cymru. Disgwylir i’r gwaith ddechrau dros yr wythnosau nesaf gydag amserlen ddisgwyliedig o 9-12 mis.

Bydd angen cau ffyrdd dros dro ar gyfer cyflawni rhai agweddau ar y gwaith. Ymgynghorir â thrigolion a busnesau lleol ar gynlluniau, a bydd rhybudd ymlaen llaw am unrhyw waith. Bydd lonydd presennol yn cael eu cadw ar agor ar adegau prysur i’r graddau y bydd hynny’n bosibl, a bydd lonydd yn cael eu cau yn ystod oriau allfrig.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin dros yr Amgylchedd:

“Rydym yn croesawu’r buddsoddiad sylweddol hwn i wella’r gyffordd brysur iawn hon. Bydd y gwaith gwella yn cefnogi teithiau mwy diogel a gwell ac mae’n rhywbeth y mae pobl wedi bod yn galw amdano. Mae’n anochel y bydd rhywfaint o darfu wrth i ni wneud y gwaith hwn, ond drwy gynllunio gofalus byddwn yn lleihau’r effaith ar ddefnyddwyr ffyrdd cyn belled ag y bo modd, a rhoddir cyhoeddusrwydd ymlaen llaw i bob gwaith ffordd fel y gall pobl gynllunio eu teithiau. Hoffem ddiolch i bawb ymlaen llaw am eu cydweithrediad a’u hamynedd wrth i ni anelu at gyflawni’r gwelliannau hyn.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

Previous articleImprovements to Hendy Junction outlined
Next article6 Ways to Write a Term Paper and Achieve A+Grade
Emyr Evans
Emyr likes running when fit,and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The West Wales Chronicle. All Emyr's thoughts are his own.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here