17.8 C
Llanelli
Sunday, September 13, 2026
Home Local News Ceredigion News Ceredigion yn lansio Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Bregusrwydd gyntaf y DU

Ceredigion yn lansio Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Bregusrwydd gyntaf y DU

0
665
Tpi0oK2g
Tpi0oK2g

 

Yr wythnos hon (15 – 19 Mawrth), mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion yn lansio’r Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Bregusrwydd gyntaf erioed yn y DU er mwyn codi ymwybyddiaeth o droseddau sy’n targedu’r bobl fwyaf agored i niwed yn yr ardal ac i hysbysu’r cyhoedd am yr hyn y gallan nhw ei wneud i helpu.

Er bod cyfraddau troseddu yng Ngheredigion ymhlith yr isaf yn y DU, mae pobl sy’n agored i niwed yn dal i fod mewn perygl o gael eu targedu drwy droseddau fel sgamiau a thwyll, cam-drin domestig, cogio a Llinellau Sirol fel y dangosir mewn ffilm emosiynol newydd a grëwyd i fynd i’r afael â’r mater.

Wedi’i ariannu gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, mae’r Bartneriaeth wedi darparu hyfforddiant arbenigol i randdeiliaid yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr er mwyn eu helpu i adnabod arwyddion troseddau bregusrwydd a dysgu sut i gefnogi’r rhai sydd fwyaf mewn perygl.

Yn y cyfamser, mae bron i 50,000 o aelwydydd ledled Ceredigion wedi derbyn gwybodaeth am sut y gallan nhw hefyd gefnogi’r fenter — drwy ddeall arwyddion troseddau bregus a phwy allai fod mewn mwy o berygl, a beth i’w wneud os ydyn nhw’n amau bod rhywun mewn perygl.

Yn ôl Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys: “Mae unrhyw un mewn perygl o fod yn agored i niwed a dioddef trosedd, ar unrhyw adeg ond gallan nhw fod yn arbennig o agored i niwed oherwydd ffactorau personol, megis problemau iechyd meddwl neu anabledd, a ffactorau sefyllfaol megis anawsterau ariannol neu gamddefnyddio sylweddau.

“Mae aelodau o’r cyhoedd yn aml yn teimlo y gallen nhw fod yn ‘drafferth’ i’r Heddlu – yn enwedig yn ystod pandemig y coronafeirws – fodd bynnag, ni allai hyn fod ymhellach o’r gwir. Os nad yw rhywbeth yn ymddangos yn iawn, fel arfer nid yw, ac mae angen help y cyhoedd arnom i ddod â’r arsylwadau hyn i’n sylw. Mae’r pandemig wedi effeithio’n sylweddol ar amgylchiadau pobl, sy’n golygu y gallai mwy o bobl fod mewn perygl o ddioddef trosedd nag erioed o’r blaen. Ein gwaith ni yw helpu i gadw Ceredigion yn ddiogel, ac mae cefnogaeth

pobl leol yn hanfodol i’n helpu i wneud hynny. Gellir rhoi gwybod am bryderon yn ddienw drwy Crimestoppers.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Rydyn ni’n hynod ffodus bod lefelau troseddu yma yng Ngheredigion ymhlith yr isaf yn y DU, ond nid oes lle i fod yn hunanfodlon, a dyna pam rydyn ni’n lansio’r Wythnos Ymwybyddiaeth hynod bwysig hon.

“Mae’r Sir wedi cyd-dynnu fwy nag erioed o’r blaen yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a gobeithiwn y bydd yr ymgyrch hon, unwaith eto, yn uno pobl Ceredigion i ddod yn llygaid ac yn glustiau i’r gymuned.”

Os ydych chi’n credu bod rhywun mewn perygl uniongyrchol a bod angen cymorth arnoch ar unwaith, ffoniwch yr Heddlu ar 999.

Am ragor o wybodaeth am Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Bregusrwydd Ceredigion ac i gael gwybod sut y gallwch helpu, ewch i: http://www.ceredigion.gov.uk/VC.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.