10 C
Llanelli
Monday, March 2, 2026
Home Newyddion Lle £5m i roi hwb i anghenion tai yng Nghymru

£5m i roi hwb i anghenion tai yng Nghymru

0
450
Post demolition
Post demolition

Mae sicrhau bod tai fforddiadwy a thai cymdeithasol ar gael yng Nghymru wedi cael hwb, diolch i Gronfa Rhyddhau Tir Llywodraeth Cymru.

Mae’r gronfa gwerth £5m wedi’i chynllunio i gyflymu’r broses o ddefnyddio tir cyhoeddus sydd heb ei ddatblygu ar gyfer tai fforddiadwy a thai cymdeithasol y mae dirfawr alw amdanynt, ac mae wedi rhoi cefnogaeth i ddau ar bymtheg o brosiectau eleni. Mae’r prosiectau llwyddiannus yn cyflawni datblygiadau carbon isel ar raddfa fach drwy ddefnyddio technoleg fodern ac arloesol.

Mae prosiectau’n cynnwys:

  • datblygu tir ar gyfer 18 o gartrefi fforddiadwy a thai cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin.
  • prynu eiddo gwag yng Ngheredigion i’w troi’n gartrefi cymdeithasol.
  • chwalu cyn safle diwydiannol yn Abertawe er mwyn adeiladu 15 o dai fforddiadwy a thai cymdeithasol.
  • paratoi tir ar gyfer 26 o dai fforddiadwy ar Ynys Môn.
  • darparu llety cymunedol ar gyfer pobl sydd ag anableddau dysgu ym Mlaenau Gwent.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans:

“Mae darparu rhagor o dai cymdeithasol yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.

“Mae’r Gronfa Rhyddhau Tir wedi caniatáu i ni gyflymu ein hymateb i’r angen am dai yma yng Nghymru, a hynny drwy roi’r cyllid angenrheidiol i ryddhau tir cyhoeddus nad yw wedi’i ddatblygu er mwyn adeiladu rhagor o dai fforddiadwy a thai cymdeithasol.

“Mae’r gronfa hefyd yn ein helpu i roi hwb y mae mawr ei angen i’r economi, yn enwedig y diwydiant adeiladu a’r cadwyni cyflenwi cysylltiedig.”

Bydd y Gronfa Rhyddhau Tir yn parhau i gefnogi prosiectau ychwanegol y flwyddyn nesaf, ac mae’r Gweinidog Cyllid wedi cyhoeddi y bydd gwerth £10m o gyllid ar gael fel rhan o’r Gyllideb Derfynol yn 2021-22.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.