9 C
Llanelli
Saturday, March 7, 2026
Home Farming CYNLLUN IECHYD CENFAINT MENTER MOCH CYMRU YN CYNNIG BUDD I FOCH AC...

CYNLLUN IECHYD CENFAINT MENTER MOCH CYMRU YN CYNNIG BUDD I FOCH AC I’R BOCED

0
450
Gwenno with pigs
Gwenno with pigs

Mae ffermwyr moch yng Nghymru yn mwynhau manteision dyfodol iach ar gyfer eu cenfaint a sefyllfa ariannol eu fferm trwy fanteisio ar Gymorth Cynllun Iechyd Cenfaint Menter Moch Cymru.

Mae Cynllun Iechyd y Genfaint Menter Moch Cymru yn meithrin perthynas waith agos rhwng ffermwyr a milfeddygon, gan greu strategaeth wedi’i theilwra i anghenion y fferm a’r genfaint unigol. 

Trwy Fenter Moch Cymru, gall ffermwyr moch cymwys fanteisio ar gyllid ar gyfer 80% o gost y cynllun – hyd at £300 – yn ogystal â chyngor wedi’i deilwra er mwyn helpu i wella iechyd a chynhyrchiant eu cenfaint

(https://menterabusnes.cymru/mentermochcymru/herd-health/)

Dywedodd Elin Haf Jones, Swyddog Datblygu Menter Moch Cymru, “Nod y Cynllun Iechyd y Genfaint yw gwella iechyd y genfaint, lles moch a rheoli clefydau.  Yn y pen draw, mae hyn yn arwain at well effeithlonrwydd a chynaladwyedd, ynghyd ag elw uwch ar gyfer y fferm.

“Mae’r broses yn cynnwys ymgynghori gyda milfeddyg a sgrinio iechyd y genfaint am amrediad o glefydau;  yn ogystal â chyngor ynghylch brechu, bioddiogelwch a pherfformiad magu.”

Un ffermwr sydd wedi gweld gwahaniaeth sylweddol i’w chenfaint o foch – ac i sefyllfa ariannol y fferm – ers iddi gychwyn ar y Cynllun Iechyd Cenfaint, yw Gwenno Pugh.

Mae Gwenno wedi bod yn cadw hychod Gwyn Mawrion a Chymreig ar ei fferm ym Mhenmynydd ger Llanfair PG, Ynys Môn, ers deng mlynedd, yn ogystal â rhedeg uned buchod sugno eidion a defaid.

Ar hyn o bryd, mae 30 o hychod ar y fferm, a dros y blynyddoedd diwethaf, mae Gwenno wedi bod yn gweithio i sicrhau bod y fenter moch yn cynnwys mwy o ffocws ar fusnes.  Mae hi’n pesgi tua 550 o foch y flwyddyn, ac yn y pen draw, mae hi’n gobeithio cael hychod Cymreig yn unig ar y fferm.

Defnyddir proses Ffrwythloni Artiffisial (AI) ar gyfer pob hwch, gan ddefnyddio hybrid 

Pietrain (Maximus-Klasse).  Defnyddir AI Cymreig i gadw hesbinychod a defnyddir baedd y fferm ar gyfer rhai achosion eildro.

Yna, gwerthir y moch i’r lladd-dy yn uniongyrchol.  Mae Gwenno wedi mabwysiadu trefniant llymach hefyd wrth ddewis, er mwyn sicrhau perfformiad da, trwy werthu unrhyw hychod sy’n tanberfformio.

Gyda chymorth Menter Moch Cymru a Geraint Jones o filfeddygon Pwllheli, Milfeddygon Deufor, mae Gwenno wedi llwyddo i weithredu Cynllun Iechyd Cenfaint ac mae’n elwa ar y manteision.

Mae rhaglen frechu wedi cael gwared ar broblemau a welwyd yn flaenorol gyda chlefydau megis parfofeirws y moch (PPV), Niwmonia Mycoplasma, a PCV.  Mae’r ymyrraeth hon wedi arwain at gyfnod pesgi cyflymach, ac o ganlyniad, mae wedi gwneud arbedion gwerthfawr.

Dywedodd Gwenno, “Heb os, byddwn yn annog pobl i fanteisio ar y Cynllun Iechyd y Genfaint trwy gyfrwng Menter Moch Cymru.  Trwy brofi gwaed a brechu’r moch, rydw i’n cael llai o broblemau gyda fy nghenfaint bellach.

“Cyn hyn, arferwn gael problemau gyda thoreidiau bychain ac ymgeision AI aflwyddiannus a oedd o ganlyniad i PPV.  Yn yr un modd, cynhaliwyd profion ar fy nhoreidiau diddyfnu a oedd yn tanberfformio, ac mae gennyf raglen frechu ar gyfer PCV erbyn hyn.  Ac mae problem beswch – a oedd yn arwain at dyfiant arafach – wedi cael ei datrys gan frechlyn Niwmonia Mycoplasma.”

Mae hi’n canmol y rhaglen frechu am sicrhau bod ei moch yn mynd oddi ar y fferm 10-14 diwrnod yn gynharach nag yr oeddent o’r blaen, gan arbed tua £7 y pen iddi.  Mae’n arbediad enfawr wrth sicrhau cydbwysedd rhwng elw bychan ar foch a chostau porthi uchel.

Dywedodd Gwenno, “Dim ond ychydig bunnoedd y pen y mae brechiadau’n eu costio, ac yn y tymor hir, mae’r manteision i’r busnes yn wych.  Hefyd, mae gallu cydweithio’n agos gyda’r milfeddyg yn ddefnyddiol iawn, oherwydd y gallaf ofyn cwestiynau a chael y cymorth y mae ei angen arnaf ar gyfer iechyd fy nghenfaint.”

Ariannir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.