6.9 C
Llanelli
Sunday, February 1, 2026
Home Newyddion Lle Cyn-athrawes gyda Dŵr Cymru’n cael Medal yr Ymerodraeth Brydeinig

Cyn-athrawes gyda Dŵr Cymru’n cael Medal yr Ymerodraeth Brydeinig

0
486
Mary pic
Mary pic

Cafodd ymroddiad un o gyn-athrawesau Dŵr Cymru i ddatblygu addysg a chwaraeon yn Rwanda ei gydnabod pan ddyfarnwyd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig iddi yn ddiweddar.

Bu Mary Watkins, a dreuliodd 13 blynedd yn athrawes deithiol gyda’r cwmni dŵr nid-er-elw, yn gweithio’n ddiflino i ddatblygu a chyflenwi adnoddau addysgol i blant yn Rwanda. Roedd hyn yn cynnwys datblygu adnoddau i blant mewn ysgolion a helpu i hyfforddi athrawon.

Syrthiodd Mary mewn cariad ag Affrica pan fu ar daith i Uganda gydag elusen WaterAid yn 2008.  Aeth y daith â hi i gymunedau a oedd ar eu hennill oherwydd arian a godwyd gan y cwmni. Mae Dŵr Cymru wedi codi dros £1 filiwn i helpu prosiectau arloesi, prosiectau seilwaith a chynlluniau i osod pympiau dŵr ac offer casglu dŵr er mwyn gwella hylendid a glanweithdra.

Ymunodd Mary â Thîm Addysg llwyddiannus Dŵr Cymru yn 2004 o Ysgol Gynradd Gaer, Casnewydd ac fe gyfrannodd yn fawr at ddatblygu strategaeth addysg y cwmni. Mae’r adran addysg yn cynnig sesiynau mewn canolfannau addysg ac mewn ysgolion i gannoedd o filoedd o ddisgyblion yn ardal y cwmni. Mae wedi cyrraedd dros 570,00 o ddisgyblion ers i’r rhaglen gael ei lansio yn 2001.

 

Mary pic-2

 

Ar ôl ymweld ag Uganda, treuliodd Mary a Glyn, ei gŵr, flwyddyn sabathol yn Rwanda yn gwirfoddoli gyda’r VSO (Voluntary Service Overseas) gan gefnogi a hyfforddi athrawon a datblygu adnoddau ar gyfer ysgolion cynradd. Syrthiodd y ddau mewn cariad â’r wlad a  buont yn ymweld â hi bob blwyddyn gan ymddiddori yn y tîm rygbi lleol a helpu i gasglu a dosbarthu cit ar gyfer y rhanbarth cyfan.  Gadawodd Mary Dŵr Cymru yn 2018 i ddychwelyd i Rwanda ar leoliad blwyddyn gyda’r VSO gan ddefnyddio’i phrofiad gwerthfawr i hyfforddi athrawon. Ers 2018 buont yn rhedeg elusen Friends of Rwandan Rugby yn y DU, gan gyflogi Swyddogion Datblygu Rygbi o Rwanda i ddysgu rygbi mewn ysgolion ledled y wlad. Yn ddiweddar, mae Mary wedi sefydlu cwmni cydweithredol i fenywod yn ardal Rusizi, gan godi arian a darparu 8 o beiriannau gwnïo ar gyfer menywod ifanc er mwyn iddynt ennill incwm a chynnal eu teuluoedd trwy wnïo dillad. Yn ogystal, mae wedi helpu un o’i chyn-fyfyrwyr i sefydlu ysgol feithrin mewn ardal anghysbell yn ne-orllewin Rwanda.

Dywedodd Claire Roberts. Pennaeth Ymgysylltu Cymunedol: “Dydi’r anrhydedd haeddiannol hon ddim yn fy synnu o gwbl. Roedd ymroddiad Mary i wneud gwahaniaeth i bobl Affrica yn amlwg ers ei hymweliad cyntaf â’r wlad. Mae’n athrawes ysbrydoledig ac roedd y wers a greodd ar ôl ymweld ag Uganda yn un o’r gwersi mwyaf poblogaidd yn ein Canolfannau Darganfod. Roedd yn aelod gwerthfawr iawn o’r cwmni ac mae’n wych meddwl bod miloedd o blant ledled Cymru a Rwanda ar eu hennill oherwydd ei brwdfrydedd hi a’i chariad at ei gwaith”.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.