15.4 C
Llanelli
Wednesday, March 18, 2026
Home Newyddion Lle Llywodraeth Plaid Cymru i recriwtio 4,500 o athrawon a chodi cyflog cychwynnol

Llywodraeth Plaid Cymru i recriwtio 4,500 o athrawon a chodi cyflog cychwynnol

0
623
SianG
SianG

Mae llefarydd Plaid Cymru ar Addysg Siân Gwenllian AS heddiw wedi nodi addewid ei phlaid i recriwtio 4,500 o athrawon ychwanegol a staff cymorth arbenigol yn ysgolion Cymru, pe bai’n ffurfio’r llywodraeth nesaf ar ôl yr etholiad ym mis Mai.

Gan nodi gweledigaeth y blaid i gynnig “i bob plentyn yng Nghymru, beth bynnag fo’u cod post neu gefndir, y dechrau gorau mewn bywyd”, canmolodd Siân Gwenllianathrawon a holl staff yr ysgol am “weithio rhyfeddodau” drwy gydol y pandemig i sicrhau bod pobl ifanc yn parhau i dderbyn addysg er gwaethaf yr amgylchiadau heriol.

Dywedodd Siân Gwenllian hefyd y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn codi’r cyflog cychwynnol i athrawon yng Nghymru o 10% i £30,000 ac yn gweithio tuag at wneud addysgu yn broffesiwn lefel Meistr, gan roi mwy o gyfleoedd datblygiad proffesiynol a chefnogaeth i athrawon drwy gydol eu gyrfaoedd.

Dywedodd Siân Gwenllian AS:

“Rwyf am i bob plentyn yng Nghymru, beth bynnag fo’u cod post neu gefndir, gael y dechrau gorau mewn bywyd.

“Rhan bwysig o hynny yw sicrhau bod gan ein hysgolion gymaint o adnoddau â phosibl, nid yn unig o ran nifer yr athrawon ond hefyd eu arbenigedd wrth gefnogi disgyblion ag Anghenion Dysgu ychwanegol.

“Dyna pam y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn cyflogi 4,500 o athrawon ychwanegol a staff cymorth arbenigol mewn ysgolion ledled Cymru erbyn diwedd ein tymor cyntaf.

“Mae athrawon wedi cael cyfnod arbennig o anodd yn ystod y pandemig ac wedi gweithio rhyfeddodau i sicrhau bod ein pobl ifanc yn parhau i dderbyn addysg, waeth beth fo’r amgylchiadau heriol.

“Ar hyn o bryd mae un o bob tri athro yn rhoi’r gorau i’r ystafell ddosbarth o fewn eu pum mlynedd gyntaf. Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn mynd i’r afael â hyn nid yn unig drwy sicrhau bod cyllid ar gael i recriwtio mwy o athrawon ond i wella’r cynnig i’r rhai sydd eisoes yn y proffesiwn.

“Byddwn yn gwneud hyn drwy godi cyflog cychwynnol athrawon yng Nghymru o 10% i £30,000 o 2022 a darparu seibiannau sabothol mewn gyrfa i athrawon.

“Mae Plaid Cymru hefyd yn ymrwymo i wneud addysgu yn broffesiwn lefel Meistr, gan ddechrau gyda gofyniad i bob athro newydd gymhwyso fod yn gweithio tuag at radd Meistr mewn addysg a ariennir gan y llywodraeth neu bwnc sy’n berthnasol i’w gwaith dosbarth o fewn pum mlynedd. 

“Dylai pob gweithiwr addysg, athrawon llawn amser ac athrawon cyflenwi fel ei gilydd, gael mynediad at ddatblygiad proffesiynol parhaus drwy gydol eu gyrfaoedd.

“Mae’n bryd i lywodraeth Cymru roi’r gydnabyddiaeth a’r wobr lawn y maent yn eu haeddu i athrawon. Dyna beth mae pleidlais i Blaid Cymru yn ei gynnig ar 6ed Mai.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.