11 C
Llanelli
Tuesday, April 28, 2026
Home Hywel Dda Health Charities Clwb pêl-droed cymunedol yn codi £1,000 ar gyfer Ysbyty Llwynhelyg

Clwb pêl-droed cymunedol yn codi £1,000 ar gyfer Ysbyty Llwynhelyg

0
409
Cheque presentation photo

Mae Clwb Pêl-droed New Hedges Saundersfoot wedi codi £1,000 ar gyfer Ward 10 yn Ysbyty Llwynhelyg, yn dilyn noson siaradwyr gwadd elusennol lwyddiannus.

Croesawodd y digwyddiad blynyddol, a gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2025 yn Neuadd Regency yn Saundersfoot, gefnogwyr am noson o adloniant yn cynnwys straeon cyfareddol ac uchafbwyntiau gyrfa gan gyn-gôl-geidwad proffesiynol Lerpwl, Bruce Grobbelaar.

New Hedges Saundersfoot United FC (1)

Dywedodd Simon Brace a Stuart Mclaren o’r clwb pêl-droed: “Mae Clwb Pêl-droed New Hedges Saundersfoot yn glwb pêl-droed amatur lleol i blant ac oedolion yng nghymuned Saundersfoot.

“Trefnwyd digwyddiad eleni er cof am Gareth Allen, cyn-chwaraewr annwyl iawn i’r clwb a fu farw’n anffodus yn 2023. Roedden ni eisiau anrhydeddu Gareth a dangos ein gwerthfawrogiad am y gofal a gafodd drwy roi’r elw i Ward 10 yn Ysbyty Llwynhelyg.”

Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian: “Diolch yn fawr iawn i Simon, Stuart a phawb yng Nghlwb Pêl-droed New Hedges Saundersfoot am ddewis Ward 10 fel un o fuddiolwyr eich noson elusennol. Mae eich haelioni yn deyrnged hyfryd i Gareth, ac mae’r rhodd yn cael ei gwerthfawrogi’n fawr gan y tîm ar Ward 10. Rydym mor ddiolchgar am eich cefnogaeth anhygoel.

New Hedges Saundersfoot United FC (2)

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

New Hedges Saundersfoot United FC (3)

Am fwy o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here