Dim ond llywodraeth Plaid Cymru fydd yn diogelu, amddiffyn a hyrwyddo Cymru wledig

0
523
Adam Price 2016
Adam Price 2016

Bydd Plaid Cymru yn lansio ei Maniffesto Gwledig heddiw (Dydd Mawrth Ebrill 20fed) gan addo mai nhw yw’r unig blaid fydd wir yn “diogelu, amddiffyn a hyrwyddo’r Gymru wledig”.

Yn siarad cyn ymweliad â Fferm Hafod Wen yn Johnstown ger Caerfyrddin, dywedodd arweinydd y blaid Adam Price fod Plaid Cymru yn “cydnabod y cyfraniad aruthrol y mae’r sector amaethyddol yn ei wneud i Gymru yn economaidd, yn amgylcheddol, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol” ac yn addo y byddai llywodraeth Plaid yn gweithio “er budd, nid yn groes, i’n cymunedau gwledig ehangach“.

Mae polisïau sydd wedi’u cynnwys yn y maniffesto eang yn mynd i’r afael â materion fel Rheoliadau PPN, Cynhyrchu Bwyd Cymru, Troseddau Gwledig a hyrwyddo cynnyrch o Gymru ledled y byd.

Meddai Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price:

“Mae ein maniffesto ar gyfer y Gymru wledig yn amlinellu’r polisïau allweddol y byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn eu cyflwyno ar ôl Mai 6ed wrth geisio sicrhau’r dyfodol gwell y mae ein cymunedau gwledig yn ei haeddu.

“Byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod ein system fwyd yn gweithio er budd ein ffermydd teuluol a’n cynhyrchwyr a’n proseswyr lleol drwy wneud Cymru’n fwy hunangynhaliol.

“Mae angen cadwyni cyflenwi bwyd byrrach arnom a mwy o gapasiti i dyfu, prosesu, dosbarthu a gwerthu ein cynnyrch ein hunain. Dyna pam y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn diwygio caffael cyhoeddus fel bod ysgolion, ysbytai a swyddfeydd y cyngor yn blaenoriaethu prynu bwyd a gynhyrchir yng Nghymru.

“Byddem hefyd yn creu ac yn hyrwyddo brand swyddogol ‘Gwnaethpwyd yng Nghymru’ a fydd yn cael ei gario gan unrhyw gynnyrch neu wasanaeth lle mae 50 y cant o’r gwerth yn cael ei greu yng Nghymru. Mae gan ein gwlad rai o’r cynnyrch gorau yn y byd a byddai llywodraeth Plaid Cymru yn gwneud mwy i’w hyrwyddo ar draws y byd.

“Gwyddom fod cymunedau gwledig yn cael eu taro’n galed gan argyfwng yr ail gartrefi a dyna pam y bydd polisi Plaid Cymru i ddarparu 50,000 o gartrefi fforddiadwy a chymdeithasol yn gwella’r ddarpariaeth o gartrefi i bobl leol.”

Dywedodd Llyr Gruffydd, llefarydd Plaid Cymru ar Faterion Gwledig ac ymgeisydd De Clwyd:

“Mae Llafur a’r Torïaid wedi siomi ffermwyr a’r sector amaethyddol ehangach.

“Byddai llywodraeth Plaid yn dirymu’r rheoliadau ‘NVZ’ annheg ac anghymesur a gyflwynwyd gan Lafur ac yn gweithio i amddiffyn cynhyrchwyr bwyd Cymru rhag y rhwystrau masnach a godwyd gan Brexit caled y Torïaid.

“Byddem hefyd yn cyflwyno cynllun newydd i’r PAC a fyddai’n gwarantu taliad cymorth sylfaenol i ffermwyr gynnig mwy o sefydlogrwydd economaidd i’r diwydiant ar yr adeg heriol hon.

“Maes arall lle byddai llywodraeth Plaid Cymru yn helpu ein cymunedau gwledig yw mynd i’r afael â throseddu. Drwy weithio gyda’n Comisiynwyr Heddlu a Throseddu byddem yn cynyddu capasiti ein timau troseddau gwledig. Byddem hefyd yn mynnu mwy o bwerau i fynd i’r afael â throseddau gwledig, yn enwedig dwyn o ffermydd a diogelu da byw rhag ymosodiadau gan gŵn.

“Mae hon yn gyfres eang o addewidion sy’n dangos bod Plaid Cymru yn gadarn ar ochr cymunedau gwledig. Rydym yn deall yr heriau ac rydym wedi ymrwymo i ddiogelu, amddiffyn a hyrwyddo’r Gymru wledig ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here