6.7 C
Llanelli
Tuesday, February 3, 2026
Home Arts and Media Pennod newydd i Harriet wrth iddi lansio cyfres o lyfrau plant

Pennod newydd i Harriet wrth iddi lansio cyfres o lyfrau plant

0
745
wilbur and mary
wilbur and mary

Mae un o raddedigion Prifysgol Abertawe’n gobeithio y bydd ei llyfr plant newydd yn lansio cyfres o adnoddau i geisio mynd â darllenwyr ifanc ar daith synhwyraidd.

Mae’r awdures Harriet Beth Carr yn dweud ei bod hi wedi rhoi’r technegau a ddysgodd wrth astudio am radd meistr mewn Chwarae Datblygiadol a Therapiwtig ar waith wrth ysgrifennu The Mindful Walk: The Adventures of Wilbur-James & Mary.

Meddai Harriet, o Ferthyr Tudful: “Mae’r stori’n seiliedig ar fy nau gi ac mae’n dilyn antur drwy goedwig yn arfer techneg sy’n gyffredin ym maes ymwybyddiaeth ofalgar o’r enw ymwybyddiaeth synhwyraidd.

“Gwnes i ddysgu am y ffordd y gall chwarae ein helpu i fagu a chadw sgiliau newydd, felly roeddwn am greu stori a fyddai’n addysgu medr i wella lles plant heb roi’r ymdeimlad iddynt eu bod yn dysgu.”

Mae Harriet yn dweud bod gweithio mewn swydd nad oedd yn rhoi boddhad iddi mewn swyddfa wedi ei hysgogi i ddychwelyd i fyd addysg er mwyn astudio rhywbeth a fyddai’n gwneud gwahaniaeth i fywyd pobl.

“Pan ddes i ar draws y cwrs gradd meistr yn Abertawe, roeddwn yn gwybod mai dyna’r hyn roeddwn yn chwilio amdano. Roedd pŵer chwarae o ddiddordeb i mi ac roeddwn am gael mwy o wybodaeth am fabwysiadu ymagwedd chwareus at ddatblygiad, lles ac iechyd yn gyffredinol.

“Roeddwn wrth fy modd ar y cwrs – roedd cefnogaeth fy nhiwtoriaid yn wych, roedd y cynnwys yn hynod ddiddorol a gwnes i ddatblygu safbwynt newydd sbon ar chwarae rwyf erbyn hyn yn ei ddefnyddio yn fy musnes iechyd a lles fy hun, The Kind Nest.

“Rwy’n gobeithio y byddaf yn gallu ysgrifennu mwy o lyfrau ac rwy’n bwriadu mynd i ysgolion i gynnig sesiynau lles chwareus. Rwy’n credu bod blaenoriaethu lles a charedigrwydd yn bwysicach nag erioed. “

Meddai’r Rheolwr Rhaglenni a’r Uwch-ddarlithydd Dr Pete King: “Mae chwarae’n ffordd allweddol o gefnogi iechyd a lles emosiynol ac roedd sicrhau dealltwriaeth eang o bwysigrwydd chwarae, yn enwedig arferion chwarae anghyfeiriol, yn ysgogiad mawr i ddatblygu ein rhaglen.

“Mae llyfr Harriet yn enghraifft wych o’r ffordd y mae ein graddedigion yn rhoi eu gwybodaeth am theori a’u hymchwil ar waith.

“Mae’r rhaglen wedi helpu graddedigion i sicrhau amrywiaeth o swyddi megis darparu cyfleoedd chwarae datblygiadol a therapiwtig mewn sefydliadau elusennol, ysgolion, ysbytai, lleoliadau gofal iechyd meddwl a charchardai. Mae rhai hefyd wedi datblygu eu gwasanaethau chwarae therapiwtig eu hunain.”

Ychwanegodd yr Athro Cysylltiol Dr Justine Howard: “Roedd thesis gradd meistr Harriet  yn ymestyn yr hyn a oedd eisoes yn hysbys am ddefnyddio anifeiliaid at ddibenion ymyriadau therapi pwrpasol, gan ganolbwyntio ar fanteision datblygiadol a therapiwtig ein rhyngweithiadau pob dydd â’n hanifeiliaid anwes. Mae ei brwdfrydedd yn amlwg yn y llyfr hardd a grëwyd ganddi.

“O ganlyniad i’r pandemig, mae ymarferwyr a’r rhai sy’n llunio polisïau’n rhoi mwy o bwyslais nag erioed ar iechyd a lles emosiynol plant. Mae ei llyfr yn hynod amserol. Rydym yn dymuno pob llwyddiant iddi ac yn edrych ymlaen at weld rhagor o deitlau newydd yn y gyfres.”

Mwy o wybodaeth am y rhaglen MA mewn Chwarae Datblygiadol a Therapiwtig a manylion ein diwrnod agored ôl-raddedig rhithwir nesaf

Captions


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.