Mae’r apêl Gwyllt am Goetiroedd Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi codi bron i ddwywaith ei tharged gwreiddiol, sy’n golygu y bydd modd plannu bron i 2,000 o goed ar draws y dirwedd leol, yn ogystal â chefnogi’r gwaith o ddatblygu coetir cymunedol newydd.
Lansiwyd y prosiect codi arian y llynedd, gyda’r nod o greu coridorau coetir newydd ar draws Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i helpu bywyd gwyllt i dyfu a ffynnu. Er bod y targed cychwynnol wedi’i osod ar £10,000, codwyd y swm anhygoel o £19,000.
Y DU yw un o’r gwledydd lleiaf coediog yn Ewrop, gyda dim ond 13% o’i arwyneb yn goediog, o’i gymharu â chyfartaledd Ewrop sef tua 37%. Yn ogystal â helpu bywyd gwyllt, mae coed yn chwarae rhan bwysig drwy wrthbwyso ein hôl troed carbon, yn ogystal â hybu iechyd a llesiant.
Dywedodd y darlunydd llawrydd o Ddinbych-y-pysgod, Millie Marotta, sydd wedi bod yn cefnogi’r apêl: “Rydw i wrth fy modd yn gweld apêl Gwyllt am Goetiroedd yn codi bron i ddwywaith ei tharged gwreiddiol – am lwyddiant ysgubol! Mae’r llwyddiant hwn yn brawf o’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud gan y tîm yn Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a’r holl gefnogwyr gwych sydd wedi cyfrannu’n hael. Rwy’n edrych ymlaen at ddilyn eu gwaith i greu coridorau o goetir ar draws y Parc er mwyn helpu i ddiogelu dyfodol bywyd gwyllt ein coetiroedd.”
Dywedodd Nichola Couceiro, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth: “Hoffai’r Ymddiriedolaeth ddiolch i Millie Marotta a’r cyhoeddwr Batsford, a’r Sefydliadau Jenour a DS, Pavilion Books, The Big Give, Stadiwm y Mileniwm ac Ymddiriedolaeth Gymunedol Cod Post – ynghyd â phawb arall sydd wedi cyfrannu a chefnogi’r apêl. Fydden ni’n llythrennol ddim wedi gallu gwneud hyn heboch chi.”
I gael rhagor o wybodaeth am yr Apêl Gwyllt am Goetiroedd a gwaith yr Ymddiriedolaeth a sut gallwch chi gymryd rhan, ewch i www.ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru.
Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn elusen sydd wedi’i chofrestru gan Gomisiwn Elusennau’r DU. Rhif cofrestru’r elusen yw 1179281.
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |


















