18.5 C
Llanelli
Monday, September 14, 2026
Home Government TUC Cymru: Rhoi grym yn nwylo gweithwyr ifanc er mwyn adfer

TUC Cymru: Rhoi grym yn nwylo gweithwyr ifanc er mwyn adfer

0
447
Shavanah Taj profile Wales TUC
Shavanah Taj profile Wales TUC
  • Mae data newydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cadarnhau bod gweithwyr ifanc yng Nghymru wedi cael eu taro galetaf gan argyfwng Covid – gyda gostyngiad o 6.5 pwynt canran yng nghyfradd cyflogaeth pobl ifanc 16-24 oed ers mis Ionawr 2020.
  • Mae ymchwil newydd gan TUC Cymru/YouGov wedi dangos bod degau o filoedd o weithwyr ifanc yng Nghymru yn credu eu bod yn cael eu trin yn annheg ar gyflog ac nad oes ganddyn nhw fawr o lais mewn penderfyniadau yn y gweithle.
  • Mae TUC Cymru yn galw ar Lywodraeth newydd Cymru i weithio gydag undebau i sicrhau bod adferiad economaidd Cymru yn canolbwyntio ar swyddi o ansawdd da a grymuso gweithwyr ifanc.
  • Daw’r alwad wrth i TUC Cymru lansio ymgyrch newydd i gynyddu nifer y gweithwyr ifanc sy’n aelodau o undeb.

Mae TUC Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ganolbwyntio ei strategaeth adferiad economaidd ar sicrhau bod gweithwyr ifanc yng Nghymru yn gallu cael mynediad at swyddi o ansawdd da, a’u bod yn cael eu grymuso i fynnu eu hawliau yn y gwaith.

Mae’r undeb wedi croesawu addewid Llafur Cymru i ddarparu Gwarant i Bobl Ifanc o le mewn gwaith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb yng Nghymru dan 25 oed. Ond mae’n dadlau bod yn rhaid i’r addewid fynd ymhellach i sicrhau bod y gweithwyr ifanc yn gallu osgoi’r swyddi ansicr ac o ansawdd gwael, a oedd yn nodweddiadol o adferiad y dirwasgiad diwethaf.

Daeth yr alwad ar ôl i ddata newydd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ddangos bod cyfradd cyflogaeth pobl ifanc 16-24 oed 6.5 pwynt canran yn is ers dechrau 2020. I’r gwrthwyneb, nid yw’r gyfradd ar gyfer pobl 35-49 oed wedi newid.

Ar ben hynny, mae arolwg newydd gan TUC Cymru/YouGov wedi dangos bod degau o filoedd o weithwyr yn wynebu triniaeth annheg a diffyg cyfle i weithio. Canfu’r ymchwil:

  • Bod mwy nag 1 o bob 3 yn dweud nad ydynt yn cael eu talu’n deg yn y gwaith.
  • Mae 1 o bob 5 yn dweud na fyddent yn teimlo’n gyfforddus yn codi mater sy’n ymwneud â gwaith gyda’u rheolwr – y gyfradd uchaf o unrhyw grŵp oedran.
  • Mae 1 o bob 3 yn dweud ei bod yn anodd iddyn nhw gael yr hyfforddiant sydd ei angen arnyn nhw i ddatblygu eu gyrfa.

Daw’r alwad i roi blaenoriaeth i ansawdd swyddi gweithwyr ifanc wrth i TUC Cymru lansio ymgyrch newydd i fynd i’r afael â nifer isel y bobl ifanc yn y mudiad undebau llafur. Mae llai nag un o bob 20 aelod undeb rhwng 16 a 24 oed, ac mae dros hanner y cynrychiolwyr undeb yn 50 oed a hŷn. Nod y pecyn newydd Cyrraedd Gweithwyr Iau yw helpu undebau i drefnu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr yn effeithiol.

Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:

“Ar bob mesur economaidd, mae gweithwyr ifanc wedi talu pris mawr i amddiffyn aelodau mwyaf agored i niwed cymdeithas dros y flwyddyn ddiwethaf. Maen nhw wedi bod yn fwy tebygol o golli eu swydd nag unrhyw grŵp oedran arall, wedi cael eu rhoi ar ffyrlo neu wedi gweld eu hincwm yn gostwng.

“Mae’n ddyletswydd arnom ni i sicrhau nad ydym yn ailadrodd camgymeriadau’r degawd diwethaf ac nad ydym yn caniatáu cynnydd pellach mewn gwaith ansicr o ansawdd isel. Rydyn ni eisiau gweithio gyda Llywodraeth newydd Cymru i sicrhau nad yw pobl ifanc yn cael eu gwthio i unrhyw hen swydd yn unig, ond yn hytrach, eu bod yn gallu cael gwaith gyda chyflog ac amodau teg, a lle mae eu lleisiau’n cael eu clywed.

“Mae yna her enfawr hefyd i undebau yng Nghymru. Gwyddom am y gwahaniaeth y gall undebau ei wneud yn y gweithle. Ond mae’r mudiad yn wynebu dibyn demograffig ac mae angen i ni wneud gwaith llawer gwell wrth gyfathrebu â gweithwyr ifanc. Nod ein pecyn cymorth newydd Cyrraedd Gweithwyr Iau yw rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen ar gynrychiolwyr undebau i wneud gwahaniaeth.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.