8.4 C
Llanelli
Monday, February 2, 2026
Home Newyddion Lle Athro’n cael ei benodi’n bennaeth newydd corff sy’n cynghori Llywodraeth y DU

Athro’n cael ei benodi’n bennaeth newydd corff sy’n cynghori Llywodraeth y DU

0
445
Professor Gareth Jenkins Small
Professor Gareth Jenkins Small

Mae gwyddonydd blaenllaw o Brifysgol Abertawe wedi cael ei benodi’n bennaeth pwyllgor cynghori allweddol gan Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth y DU.

Mae Gareth Jenkins, sy’n athro Carsinogenesis Moleciwlaidd yn ogystal â bod yn Gyfarwyddwr Ymchwil yn Ysgol Feddygaeth y Brifysgol, newydd ddechrau ei rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor ar Fwtagenedd Cemegion mewn Bwyd, Nwyddau Defnyddwyr a’r Amgylchedd (COM).

Mae’r corff yn adrodd i Public Health England a’r Asiantaeth Safonau Bwyd ac yn cynghori Llywodraeth y DU ar faterion diogelwch a phryderon am iechyd pobl.

Mae rôl y pwyllgor o gyflwyno gwybodaeth am egwyddorion cyffredinol pwysig darganfyddiadau gwyddonol newydd mewn cysylltiad â pheryglon mwtagenig a genotocsig a risgiau yn debygol o fod yn bwysicach byth yn y dyfodol gan y bydd cyfarwyddyd y pwyllgor yn disodli’r cyngor a roddwyd yn flaenorol gan sefydliadau Ewropeaidd cyfatebol.

Meddai’r Athro Jenkins: “Rwy’n hynod falch o dderbyn y rôl fel Cadeirydd COM. Ar ôl bod yn aelod o COM rhwng 2009 a 2019, rwy’n deall pwysigrwydd y gwaith sy’n cael ei wneud.

“Rwy’n benderfynol o ddilyn y safonau ardderchog a osodwyd gan y cadeiryddion blaenorol ac mae heriau’r sefyllfa reoliadol newidiol ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd yn destun cyffro.”

Meddai’r Athro Keith Lloyd, Deon Meddygaeth Prifysgol Abertawe: “Mae’r penodiad hwn yn adlewyrchu arbenigedd Gareth yn y maes hwn, a pha mor uchel ei fri y mae yng ngweddill y DU yn ogystal ag yng Nghymru.

“Rydym wrth ein boddau y bydd ei fewnbwn yn ddylanwadol wrth helpu i lywio polisïau a meithrin dealltwriaeth yn y dyfodol mewn maes mor bwysig.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.