5.9 C
Llanelli
Friday, March 13, 2026
Home Newyddion Lle Seren deledu o Ddinbych-y-pysgod yn ysgrifennu cerdd i helpu i hyrwyddo neges...

Seren deledu o Ddinbych-y-pysgod yn ysgrifennu cerdd i helpu i hyrwyddo neges Troedio’n Ysgafn y Parc Cenedlaethol

0
547
CharlesDale
CharlesDale

Mae’r actor uchel ei barch o Gymru, Charles Dale, wedi camu i’r adwy i gefnogi Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro drwy ofyn i’r rheini sy’n ymweld â’r sir droedio’n ysgafn a pheidio â gadael eu hôl yr haf hwn.

Mae Charles Dale yn enwog am ei ymddangosiadau ar gyfresi teledu fel CasualtyCoronation Street, Unforgotten a Pembrokeshire Murders ac fe gafodd ei alw’n ‘llenor y cyfyngiadau clo’ yn 2020 am ei sylwebaeth liwgar a barddonol ar bopeth o bandemig y Coronafeirws i ddigwyddiadau yn Nhŷ’r Cyffredin.

Mae ei waith diweddaraf, a gynhyrchwyd ar gyfer yr Awdurdod, yn cyfuno cerdd ddiweddaraf yr actor a thirlun trawiadol Arfordir Sir Benfro mewn apêl i bawb ‘droedio’n ysgafn’ wrth archwilio’r Parc Cenedlaethol yr haf hwn.

Dywedodd Prif Weithredwr Awdurdod y Parc, Tegryn Jones: “Rydyn ni’n gobeithio y bydd dawn dweud arbennig Charles yn helpu i annog mwy o bobl i gynllunio ymlaen llaw a meddwl sut gallan nhw wneud y gorau o’u hymweliad, gan wneud yn siŵr nad ydyn nhw’n cael effaith negyddol ar y Parc, ei fywyd gwyllt na phobl eraill.

“Fel un sy’n byw yn Ninbych-y-pysgod, mae gan Charles ddealltwriaeth lawn o faterion fel ymddygiad gwrthgymdeithasol a gorlenwi sydd wedi codi wrth i’r cyfyngiadau symud lacio, felly rydyn ni wrth ein boddau ei fod wedi bod yn barod i ddefnyddio ei sgiliau ysgrifennu ac actio i gefnogi ein hymgyrch er mwyn gwneud profiad pawb o Arfordir Sir Benfro yn un cadarnhaol.”

Ychwanegodd Charles: “Rydw i wedi bod yn ffodus iawn o fod wedi teithio i bob cwr o’r byd yn fy ngyrfa, ond does unman gwell i ddod adref iddo na Sir Benfro. Gobeithio y bydd fy ngherdd yn atgoffa pobl i’n helpu i’w gadw felly.”

I weld y fideo, ewch i sianeli FacebookTwitter a YouTube Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro neu fynd i https://www.arfordirpenfro.cymru/troedion-ysgafn/.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.