18.7 C
Llanelli
Sunday, August 16, 2026
Home News Health News Arolwg i archwilio iechyd a lles penaethiaid ac uwch aelodau staff arwain...

Arolwg i archwilio iechyd a lles penaethiaid ac uwch aelodau staff arwain yn ystod Covid-19

0
639
School Leaders Survey. logo. Welsh
School Leaders Survey. logo. Welsh

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn galw ar benaethiaid ac uwch aelodau staff arwain i lenwi arolwg ynglŷn â’u profiadau yn ystod y pandemig Covid-19.

Wedi’i gefnogi gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth, ac Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru, bydd canfyddiadau’r arolwg yn helpu ymchwilwyr i ddarparu gwybodaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth am heriau ac effeithiau pandemig Covid-19 ar staff arweinyddiaeth mewn ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd yng Nghymru.

Yn gyffredinol, mae’r arolwg yn ceisio archwilio effaith y pandemig ar iechyd penaethiaid ac uwch aelodau staff arwain, eu sefyllfa waith, a’r gofynion a osodwyd arnynt.

Bydd Prifysgol Abertawe yn gweithio ochr yn ochr â thimau ym Mhrifysgol Newcastle, Prifysgol South Bank Llundain a Phrifysgol Caledonian Glasgow i gasglu a chymharu data ledled y Deyrnas Unedig.

COVID-19 School Leader Survey

Bwlch mewn tystiolaeth

Er bod gwaith ymchwil wedi cael ei gynnal yng Nghymru sy’n archwilio effaith cau ysgolion ar ddisgyblion ac athrawon, mae bwlch yn y dystiolaeth sy’n archwilio effeithiau’r pandemig ar benaethiaid ac uwch aelodau staff arwain mewn ysgolion.

Dywedodd Dr Emily Marchant, Ymchwilydd Arweiniol yr astudiaeth:

Mae’r pandemig wedi creu aflonyddwch digynsail ym myd addysg. Bu’n rhaid i benaethiaid ac uwch aelodau staff arwain addasu amgylcheddau dysgu ac arferion gwaith yn gyflymmae hyn wedi gofyn am wneud penderfyniadau, arweinyddiaeth a rheolaeth i fynd i’r afael â’r heriau niferus a wynebwyd.

Byddwn yn rhannu canlyniadau ein harolwg gyda chyfranogwyr, a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau am bolisïau ac arferion, i helpu i ddatblygu dealltwriaeth well o’r heriau a wynebwyd, y prif feysydd pryder a’r hyn y gellir ei wneud i ddiogelu ar gyfer y dyfodol.”

Rhan o Rwydwaith Rhyngwladol

Mae’r timau ymchwil yn y Deyrnas Unedig yn rhan o rwydwaith rhyngwladol o fwy na 100 o ymchwilwyr o 50 o wledydd wedi’u lleoli ar bum cyfandir. Mae’r Rhwydwaith COVID-HL yn ddull cydweithredol sydd wedi’i seilio ar y syniad o gynhyrchu gwybodaeth/tystiolaeth ar y cyd a’i dosbarthu’n agored.

Dywedodd yr Athro Sinead Brophy, Cyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Iechyd y Boblogaeth:

Mae bod yn rhan o’r Rhwydwaith COVID-HL yn caniatáu i ni gyfrannu a lleoli ein hunain yn Y gymuned ymchwil ryngwladolgan gryfhau cyfranogiad Cymru mewn gwaith ymchwil iechyd a lles byd-eang a’i heffaith arno.

Bydd y Rhwydwaith yn caniatáu i ni gael mynediad at ddata rhyngwladol cymaradwy a’r cyfle i fesur a dehongli nodweddion tebyg a gwahanol yn y maes ymchwil hwn o bob rhan o’r byd.

Gellir llenwi’r arolwg fel y mae neu fel dau arolwg byr. Llenwch yr arolwg yma.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.