6.7 C
Llanelli
Tuesday, February 3, 2026
Home Newyddion Lle Anrhydeddu darlithydd am ei gyfraniad eithriadol at addysgu ffarmacoleg

Anrhydeddu darlithydd am ei gyfraniad eithriadol at addysgu ffarmacoleg

0
499
081118 229 scaled
081118 229 scaled

Mae academydd o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi cael ei anrhydeddu am ei ddulliau addysgu arloesol a’i gyfraniad at y maes.

Enillodd Dr Aidan Seeley, uwch-ddarlithydd ar y cwrs BSc mewn Ffarmacoleg Feddygol, Wobr Rang (anghlinigol) yng ngwobrau blynyddol eleni a gyflwynwyd gan Gymdeithas Ffarmacoleg Prydain.

Mae’r wobr uchel ei bri, sy’n werth £1,000, yn cydnabod rhagoriaeth addysgu a chaiff ei chyflwyno i ymgeiswyr sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol at addysgu ffarmacoleg glinigol neu anghlinigol yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

Meddai Dr Seeley, sydd hefyd yn ddirprwy gyfarwyddwr y rhaglen: “Mae ennill y wobr yn anrhydedd ac yn fraint fawr ac mae’n dangos bod Prifysgol Abertawe wedi rhoi’r rhyddid i mi archwilio a datblygu ffyrdd newydd a diddorol o gyflwyno ein rhaglen BSc mewn Ffarmacoleg Feddygol.

“Mae derbyn gwobr sydd wedi cael ei hennill yn y gorffennol gan addysgwyr blaenllaw ac adnabyddus ym maes ffarmacoleg yn uchafbwynt i mi ar ddechrau fy ngyrfa fel addysgwr. Mae hefyd yn fy annog i barhau i wella profiad addysgol ein myfyrwyr yn yr Ysgol Feddygaeth.

Gwnaeth yr Athro Lisa Wallace, Pennaeth Ffarmacoleg ac un o gymrodyr Cymdeithas Ffarmacoleg Prydain sy’n aelod o’i chyngor ar hyn o bryd, longyfarch Dr Seeley am ei gamp.

Meddai: “Mae ennill y wobr hynod gystadleuol hon, sy’n uchel ei bri, yn gamp ragorol gan Dr Seeley. Mae’n adlewyrchu ei sgiliau ardderchog fel athro a ffarmacolegydd.

“Mae ei frwdfrydedd dros ffarmacoleg a’i allu i gyfleu cysyniadau gwyddonol cymhleth mewn ffordd glir, gryno a difyr o fudd anferth i’n myfyrwyr. Mae ef hefyd yn gefnogol ac yn gosod esiampl i aelodau o staff a myfyrwyr fel ei gilydd. Llongyfarchiadau, Aidan!”

Ceir mwy o wybodaeth am ein rhaglen ffarmacoleg a chyrsiau israddedig eraill yn ystod ein diwrnod agored rhithwir nesaf. Cofrestrwch nawr


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.