9.1 C
Llanelli
Monday, March 2, 2026
Home Newyddion Lle Haf o Hwyl i helpu plant a phobl ifanc i adfer o’r...

Haf o Hwyl i helpu plant a phobl ifanc i adfer o’r pandemig

0
368
Summer of fun
Summer of fun

Mae’r cynllun ‘Haf o Hwyl’ i helpu plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau’n ymwneud â chwaraeon, diwylliant a chwarae wedi’i gyhoeddi heddiw gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan.
Wrth lansio’r prosiect Haf o Hwyl gwerth £5m ym Mharc Romilly ym Mro Morgannwg, dywedodd Julie Morgan ei bod yn bwysig inni edrych ar yr ystod lawn o anghenion sydd ein plant a’n pobl ifanc, gan sicrhau bod llesiant cymdeithasol ac emosiynol wrth wraidd ein hadferiad o’r pandemig.

Bydd y rhaglen Haf o Hwyl yn cael ei rhedeg gan awdurdodau lleol rhwng 1 Gorffennaf a 30 Medi a bydd yn darparu amrywiaeth o weithgareddau am ddim yn ymwneud â hamdden, chwaraeon a diwylliant i blant a phobl ifanc 0-25 oed, i helpu i gefnogi eu llesiant cymdeithasol, emosiynol, corfforol a meddyliol. Bydd y gweithgareddau a ddarperir drwy’r cynllun Haf o Hwyl am ddim, yn Gymraeg ac yn Saesneg, a byddant yn cael eu cynnig ar ben unrhyw ddarpariaeth gofal plant rheoleiddiedig. Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi lansio hwb gwybodaeth i hysbysebu’r gweithgareddau am ddim sydd ar gael fel rhan o’r cynllun Haf o Hwyl.

Dyma dri phrif amcan Haf o Hwyl:

  • cefnogi cyfleoedd i blant a phobl ifanc gael hwyl a gallu eu mynegi eu hunain drwy chwarae
  • mentrau rhyngweithiol a chreadigol seiliedig ar chwarae yn y gymuned i blant a phobl ifanc o bob oedran
  • darparu cyfleoedd i chwarae gyda ffrindiau a chyfoedion

Fel rhan o’r buddsoddiad, bydd £450,000 yn cael ei rannu rhwng Chwaraeon Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru i ddarparu cynllun peilot a fydd yn ychwanegu at y diwrnod ysgol drwy agor cyfleusterau ysgol i’w defnyddio gan y gymuned, i greu cynnig llesiant newydd i blant a phobl ifanc. Bydd y cynllun peilot yn ategu’r rhaglen Haf o Hwyl.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

“Mae pob un ohonom wedi teimlo effeithiau’r flwyddyn ddiwethaf, yn enwedig ein plant a’n pobl ifanc sydd wedi colli cynifer o gyfleoedd i gymdeithasu, i fod yn actif ac i chwarae. Dyna pam, fel rhan o’n cynllun Adnewyddu a Diwygio ar gyfer dysgu, rwy’n cyhoeddi cyllid i gefnogi ein plant a’n pobl ifanc i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau cymdeithasol a gweithgareddau llesiant am ddim. Bydd y gweithgareddau a ariennir drwy’r cynllun Haf o Hwyl yn darparu cyfleoedd i gefnogi iechyd a llesiant cymdeithasol, emosiynol a chorfforol ein pobl ifanc. Drwy gefnogi’r anghenion hyn gellir hefyd eu helpu i fagu hyder, i ailymgysylltu â dysgu ac addysg, ac i geisio gwireddu eu llawn botensial. Edrychaf ymlaen at weld yr amrywiaeth eang o weithgareddau a fydd yn cael eu cynnal yr haf hwn.”

Dywedodd Sally Holland, y Comisiynydd Plant:

“Mae plant a phobl ifanc wedi colli cynifer o gyfleoedd i chwarae a chymdeithasu yn ystod y pandemig. Rwy’n hynod falch bod y Llywodraeth wedi ymateb mor gadarnhaol i’r galwadau am Haf o Hwyl a wnaed gennyf gyda’r Urdd a Chwaraeon Cymru. Mae’r cyllid sydd wedi’i gyhoeddi heddiw yn ystyried y materion a godwyd yn ystod digwyddiad bwrdd crwn mawr a gynhaliwyd gennym ar y pwnc yn gynharach eleni, gan gynnwys yr angen am ragor o gymorth ar gyfer costau trafnidiaeth, darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dull wedi’i dargedu ar gyfer plant anabl, y rhai ar incwm isel a phlant o gymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol. Dewch inni sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru yn awr yn cael haf o hwyl ar ôl blwyddyn mor ansefydlog.”

Dywedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant:

“Mae cyfyngiadau Covid-19 wedi cael effaith fawr arnom i gyd, gyda phlant ymysg y rhai yr effeithiwyd fwyaf arnynt. Maent wedi methu mynd i’r ysgol am gyfnodau hir, a all effeithio’n sylweddol ar ddatblygiad cymdeithasol a lefelau gweithgarwch, yn ogystal ag ar ddysgu.

“Mae unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol wedi bod yn broblemau gwirioneddol dros y 15 mis diwethaf ac mae’r cynllun Haf o Hwyl wedi’i lansio i geisio mynd i’r afael â hyn. Bydd yn caniatáu i blant ailgysylltu â’i gilydd ac â gweddill y byd drwy amrywiaeth o weithgareddau cyffrous. Gan ddefnyddio’r cyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, rydym yn gobeithio darparu amrywiaeth o gyfleoedd ledled Bro Morgannwg gan ddefnyddio ystod eang o adnoddau a sefydliadau. Edrychwn ymlaen yn fawr at weld plant a phobl ifanc yn mwynhau eu hunain eto.”

Un elfen o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i helpu plant a phobl ifanc i adfer o’r pandemig yw’r cynllun Haf o Hwyl. Bydd gweithgareddau’n cael eu cynnal fel rhan o’r cynllun Adnewyddu a Diwygio gwerth £150 miliwn, a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Addysg Jeremy Miles yn gynharach yr wythnos hon, i gefnogi dysgwyr, athrawon a staff.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.